Mae AC Plaid Cymru Elin Jones wedi croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ei fod am dynnu nôl ei bwriad i dorri dros 10% o gyllideb Cyngor Llyfrau Cymru. Ni fydd toriad o gwbl yn y gyllideb eleni yn ôl y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant.
Byddai’r toriad wedi cael effaith sylweddol ar y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, yn ogystal â llyfrwerthwyr, awduron ac eraill. Mae Cyngor Llyfrau Cymru, a leolir yn Aberystwyth, yn gyfrifol am gefnogi cyhoeddiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac am farchnata a dosbarthu llyfrau a gyhoeddir yng Nghymru.
Daeth y newyddion mewn datganiad i’r Cynulliad, yn dilyn cyfarfod yn y Senedd, a noddwyd gan Elin Jones, lle trafododd awduron a chyhoeddwyr gydag Aelodau Cynulliad am effaith tebygol toriadau ar y diwydiant argraffu ac ar lenyddiaeth.
Dywedodd Elin Jones, AC Plaid Cymru dros Geredigion;
"Mae’r tro-pedol yma gan Lywodraeth Cymru yn newyddion gwych i gyhoeddwyr a’r ystod eang o bobl sydd ynghlwm â’r maes llenyddol ac argraffu. Byddai toriad o’r maint a fwriadwyd wedi cael effaith andwyol ar y Cyngor Llyfrau ac ar gyhoeddwyr trwy Gymru.
"O ystyried awduron, siopau llyfrau, a dylunwyr a golygyddion llawrydd mae’r diwydiant cyhoeddi yn sector bwysig iawn. Mae’r grant i’r Cyngor Llyfrau yn cefnogi’n diwyddiant llenyddol ni yng Ngymru ond hefyd diwydiant creadigol sy’n symbol pwysig o Gymru dramor.
"Rwy’n mawr groesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd y diwydiant yma. Rwy’n llongyfarch yr holl awduron a chyhoeddwyr sydd wedi arwain ymgyrch wych ar y pwnc yma."