Heddiw (dydd Llun 3 Gorffennaf) bydd AS Plaid Cymru dros Geredigion, Ben Lake, yn mynychu ei sesiwn gyntaf fel aelod llawn o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC) yw’r pwyllgor hynaf o ASau meinciau cefn yn Nhŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd ac sy’n cael ei ystyried fel y pwyllgor mwyaf dylanwadol.
Cyflwynwyd yr argymhelliad i greu pwyllgor i oruchwylio cyfrifon y llywodraeth am y tro cyntaf ym 1857. Mae strwythur a swyddogaeth y PAC yn dyddio'n ôl i ddiwygiadau a gychwynnwyd gan William Ewart Gladstone, pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys yn y 1860au. Sefydlwyd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus cyntaf ym 1862 drwy benderfyniad gan Dŷ’r Cyffredin.
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn archwilio gwerth am arian prosiectau, rhaglenni a gwasanaethau’r Llywodraeth. Gan ddefnyddio gwaith y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, mae'r Pwyllgor yn dwyn swyddogion y llywodraeth i gyfrif am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwariant cyhoeddus.
Cadarnhawyd bod Ben Lake yn aelod llawn o’r Pwyllgor ddydd Llun 26 Mehefin ac mae’n mynychu ei sesiwn gyntaf ddydd Llun 3 Gorffennaf.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Rwyf wrth fy modd i ymuno â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pwyllgor hynaf Senedd San Steffan. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at waith pwysig y Pwyllgor o archwilio gwariant Llywodraeth y DU ac i ddwyn swyddogion i gyfrif am economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwariant cyhoeddus.
“Rwy’n edrych ymlaen at graffu ar gynlluniau gwariant adrannol i sicrhau bod pobl Cymru yn cael gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel gan Lywodraeth y DU am y gwerth gorau posibl. Byddaf yn mynychu fy nghyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor fel aelod llawn heddiw, ac yn awyddus i ddechrau fy nghyfraniad i’w waith pwysig.”
Dangos 1 ymateb