Cefnogi protest i achub campws Llambed

Fu i nifer o brostestwyr gasglu ar risiau’r Senedd gydag Elin Jones AS a Cefin Campbell AS yn eu plith, i erfyn ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) i ddiogelu dyfodol eu campws yn Llambed.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd y Brifysgol ei bod yn ystyried dod â dysgu israddedig ar eu campws yn Llambed i ben ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae prifysgol wedi bodoli yn Llambed ers dros 200 o flynyddoedd, ac roedd yn sylfaen hanfodol ar gyfer sefydlu Prifysgol Cymru.

Dywedodd Elin Jones AS:  “Ers i’r Brifysgol gyhoeddi ei bod yn ystyried dod â’r dysgu i ben ar gampws Llambed, rwyf i a Ben Lake AS wedi bod mewn trafodaethau gyda’r Is Ganghellor. Deallaf eu bod mewn sefyllfa anodd fel sefydliad, ond mae wir angen iddynt ddod o hyd i ffordd o warchod dysgu israddedig ar gampws Llambed, neu oleiaf sicrhau bod y campws yn cael ei ddefnyddio yn addas; er lles y dref a’r Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn ran canolog o dref Llambed, ac mae ffyniant y dref a’r Brifysgol wedi dibynnu ar ei gilydd ers blynyddoedd maith.

Dwi eisoes wedi galw ar y Llywodraeth i gyd-weithio gyda’r Brifysgol ar ffyrdd eraill o symud ymlaen, ac i sicrhau bod modd diogelu’r campws. Hyd yma nid yw’r ymateb wedi bod yn ddefnyddiol, ac roeddwn yn falch o gael cymryd rhan yn y brotest ddoe, fydd gobeithio wedi annog Gweinidogion y Llywodraeth i ailystyried eu ymateb i’r sefyllfa. Rwyf hefyd wedi gofyn i’r Brifgysol drefnu cyfarfod cyhoeddus yn Llambed yn y dyfodol agos i drafod dyfodol y campws.”


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2025-01-23 13:58:36 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.