Ben Lake AS yn galw ar Lywodraeth y DU i amddiffyn dyfodol bragdai bach annibynnol

radovan-46Yad80Ynp4-unsplash.jpg

Mae Ben Lake AS wedi rhybuddio y gallai codiad treth arfaethedig ar gyfer bragdai bach fygwth bragdai a swyddi ar adeg sydd eisoes yn heriol oherwydd y pandemig. Er gwaethaf rhewi’r doll yn y ddwy gyllideb ddiwethaf, mae gan y DU un o'r cyfraddau Treth Cwrw uchaf yn Ewrop, ac mae deirgwaith cyfartaledd yr UE.  

O dan y cynlluniau arfaethedig dadleuol, mae dwsinau o fragdai bach ledled Cymru yn wynebu’r baich o dalu mwy o dreth oherwydd penderfyniad gan Drysorlys y DU i dorri'r Rhyddhad Trethi Bragdai Bach. Gallai'r newidiadau effeithio'n andwyol ar oddeutu 90 o fragdai bach yng Nghymru.  

Cyflwynwyd y Rhyddhad Trethi Bragdai Bychain yn 2002 i helpu bragdai bach sy'n tyfu ac yn ffynnu i gystadlu â bragdai sydd wedi sefydlu.  Ar hyn o bryd mae'r rhyddhad yn rhoi gostyngiad blynyddol o 50% ar doll cwrw i unrhyw fragwr sy'n cynhyrchu llai na 5,000 hl (880,000 peint). 

Ar ddydd Llun, 9 Tachwedd, bydd Ben Lake AS yn cymryd rhan mewn dadl ar y mater dan arweiniad ei gydweithiwr, Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd.  

Cyn y ddadl, dywedodd Ben Lake AS: 

“Mae argyfwng Covid-19 yn cynrychioli bygythiad digynsail i’n bragdai annibynnol bach, y diwydiant cwrw crefft a’r swyddi lleol y maent yn eu cynnal, ac nid yw’r effeithiau hir dymor yn hysbys hyd yma. Bydd yn her enfawr i'r sector adfer, ac mae angen i Lywodraeth y DU weithredu nawr i amddiffyn y diwydiant hynod bwysig hwn. 

“Mae unrhyw drefn dreth gosbedigol yn amlwg yn mynd i gael effaith ddifrifol ar fragwyr annibynnol bach yng Ngheredigion, yn enwedig yn ystod pandemig pan fydd prif gwsmeriaid bragwyr - tafarndai - wedi cau neu yn gwerthu llai o gwrw. 

“Rwy’n galw ar Drysorlys y DU i ailystyried cynlluniau i dorri'r Rhyddhad Trethi Bragdai Bychain er mwyn diogelu dyfodol a ffyniant ein bragdai bach.” 

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.