£10.8M i Wella Prom a Chastell Aberystwyth

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn llwyddiannus gyda chais am £10.8 miliwn o grant Cyllid Ffyniant Bro i wneud gwelliannau ar hyd yr ardal glan y môr o'r Harbwr i'r Pier ac i'r Hen Goleg. Ymhlith y gwelliannau bydd llwybr cerdded diogel a llwybr seiclo newydd a fydd yn mynd o'r Pier i'r Harbwr ac yn ymuno â'r Llwybr Seiclo Cenedlaethol sydd, ar y funud, ond yn cyrraedd Trefechan

Neges gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion:

Fel Cabinet Cyngor Sir Ceredigion, mi benderfynon ni yr wythnos yma i gymeradwyo newidiadau yn y system barcio a rheoli traffig ar hyd glan môr Aberystwyth.   Doedd e ddim yn benderfyniad hawdd a mynegwyd rhwystredigaeth yngylyn â'r holl broses, ond ar ôl trafod yr ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn amlinellu y newidiadau posib yn y llefydd parcio, penderfynon ni ofyn i'r swyddogion i fwrw ymlaen â'r gwaith ar hyd Prom y De er mwyn cyflawni prosiect sydd ar y gweill gan y Cyngor ers 2021. 

Y rheswm dros benderfynu bwrw mlaen gyda'r newidiadau o ran parcio oedd y ffaith ym 2021 i'r  Cyngor fod yn llwyddiannus gyda chais am £10.8 miliwn o grant Cyllid Ffyniant Bro i wneud gwelliannau ar hyd yr ardal glan y môr o'r Harbwr i'r Pier ac i'r Hen Goleg.

Ymhlith y gwelliannau bydd llwybr cerdded diogel a llwybr seiclo newydd a fydd yn mynd o'r Pier i'r Harbwr ac yn ymuno â'r Llwybr Seiclo Cenedlaethol sydd, ar y funud, ond yn cyrraedd Trefechan. Yn anffodus i alluogi cael llwybr beics newydd a palmant diogel i gerddwyr y mae angen lledu'r pafin a'r unig ffordd i wneud hynny yw colli mannau parcio gan na ellir symud wal y castell nac adeiladu allan i'r môr.  Y bwriad yw annog pobol i fwynhau Bae Ceredigion wrth gerdded, loncian neu seiclo ar hyd y Prom cyfan ond rydyn ni'n sylweddoli y bydd hyn yn arwain at anghyfleustra ac aniddigrwydd ymhlith rhai gyrrwyr yn y tymor byr ac wedi derbyn nifer o alwadau i beidio ad-drefnu.

Rydyn ni wedi clywed galwadau pobol, wedi darllen y gwrthwynebiadau a'r ddeiseb a rydyn ni'n deall bod yna siom ymhlith busnesau a defnyddwyr lleol oherwydd ein penderfyniad ni ac y mae wedi bod yn broses anodd i ni fel Cabinet o ran dod i benderfyniad OND  rydyn ni'n hyderus bydd y newidiadau hyn yn arwain at fanteision i fusnesau a mwy o gerddwyr a seiclwyr yn mwynhau Prom y De. 

Keith Henson Aelod Cabinet Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: "Bydd gweithwyr ac ymwelwyr i Aberystwyth yn gallu defnyddio'r llwybr ar hyd y prom yn gwybod eu bod yn ddiogel heb orfod teithio ar y ffordd fawr. Bydd yn creu cyfle i drigolion gerdded o un pen o Aberystwyth i’r llall gan allu defnyddio holl fusnesau sydd wedi eu lleoli ar hyd y promenade godidog yma. Hefyd y gallu i fwynhau'r harbwr a’r cychod sydd yn ei ddefnyddio."

Mae £10.8 miliwn o grant yn arian sylweddol iawn i dre Aberystwyth ac ymhlith sawl elfen arall mi fydd gwariant o'r grant Cyllid Ffyniant Bro yn mynd ar safle'r Castell er mwyn gwneud yr heneb gwerthfawr yma yn ddeniadol a diogel wrth osod goleuadau gwell, tacluso llwybrau ac atgyweirio'r pontydd. 

Fel mae Clive Davies, aelod Cabinet â gofal dros yr Economi a Datblygu yn ei esbonio: "Gyda buddsoddiad o £10.8m yn Aberystwyth ar gyfer datblygu Prom deheuol y dref ymhellach, mae hyn yn gyfle i gychwyn mynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd gan y dref, datblygu tiroedd y castell, llwybrau troed, llwybrau beicio a goleuadau ar draws yr ardal gan gynnwys y gofeb. Ochr yn ochr â hyn yng nghyd-destun parcio, gellir ymestyn maes parcio Maes-yr-Afon i hen safle Arriva gyda'r potensial i gynyddu'r lleoedd sydd ar gael o dros 150 sy'n rhoi mynediad agos i ganol y dref."

Mae'n werth nodi hefyd er y bydd yna ychydig o lefydd parcio yn cael eu colli ar Prom y De mi fydd yna nifer fawr o lefydd parcio ychwanegol yn cael eu creu a'u darparu ym Maes yr Afon sydd mor agos i ganol y Dre ag yw Prom y De.

Rydyn ni yn credu bydd y newidiadau hyn yn harddu Prom y De, yn gwneud y darn yna yn hawdd i gerdded, loncian a seiclo ar ei hyd ac yn annog teithio llesol a ffyrdd iach o fyw. 

“Pan fyddwch chi'n rhoi hyn i gyd at ei gilydd mae'n bromenâd llawer mwy deniadol i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn - pawb sy'n ei ddefnyddio a'r rhai nad ydyn nhw eto -  a mi fydd hefyd yn cysylltu'r Hen Goleg a chanol y dref â'r datblygiadau sydd i ddod yn yr harbwr, gan greu tref, castell a phromenâd mwy cydlynol."  Alun Williams, aelod Cabinet a'r Cynghorydd dros Morfa Glais.

Yn ogystal bydd cyfran sylweddol o'r grant Cyllid Ffyniant Bro yn mynd i gefnogi'r gwaith ar yr Hen Goleg er mwyn trawsnewid yr adeilad a'i wneud yn atyniad cyffrous i'r Dre ac yn ased fydd yn gyfraniad sylweddol i'r economi yn lleol.

Clive Davies eto: "Yn y tymor canolig a hir, o ddefnyddio arian y gronfa hon, byddwn ni'n gweld y gwaith ar safle'r Hen Goleg ac adeilad Cambria yn cael eu cwblhau.  Bydd orielau, mannau cynhadledda ac arddangos amrywiol yn denu bydd mwy o ymwelwyr ac incwm i Aberystwyth. Rwyf am ei weld ac yn dod yn gyrchfan ehangach i fusnes ac yn darparu sylfaen ar gyfer gwaith a datblygiad pellach tuag at ardal marina'r dref." 

Y gwir yw nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi £10.8 miliwn i gynghorau heb resymau cadarn iawn â thystiolaeth sy’n gwneud synnwyr o ran y darlun economaidd mawr lle y daw bywoliaeth pawb ohono , ac yn y pen draw yr ydym i gyd mor bryderus yn ei gylch. Maen nhw wedi gorfod bod yn gwbl argyhoeddedig o’r achos economaidd ac ni allwn beryglu’r swm hwnnw ac yn sicr ni fyddai pobl yn maddau inni am golli £10.8 miliwn i economi Ceredigion gyda’r holl gyfleoedd ar gyfer y dyfodol y bydd yn ei ryddhau.

Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Nid yn unig y bydd y £10.8m yn fuddsoddiad i Aberystwyth, mae'n fuddsoddiad i Geredigion a'r gobaith yw y bydd yn denu buddsoddiad preifat y mae mawr ei angen i'r dref ar gyfer y dyfodol. Yn ystod cyfnod heriol yn ariannol, mae angen inni fanteisio ar y siawns o gael cyllid grant gan lywodraeth y Deyrnas Gyfunol fel Cyllid Ffyniant Bro".

 


Dangos 2 o ymatebion

  • Matt Adams
    published this page in Newyddion 2024-05-21 10:02:00 +0100
  • Matt Adams
    published this page in Newyddion 2024-05-18 08:44:44 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.