Ben Lake AS yn annog achosion da yng Ngheredigion i wneud cais am arian hyd at £20,000

Aberaeron_2.jpg

Mae Ben Lake AS yn annog achosion da yng Ngheredigion i wneud cais am gyfran o arian allan o gronfa sydd werth dros £3miliwn a godwyd gan chwaraewyr Loteri Côd Post er mwyn cynorthwyo cynlluniau sydd yn helpu pobl leol.

Mae symiau rhwng £500 a £20,000 ar gael i elusennau a grwpiau cymunedol gyda cheisiadau am nawdd ar agor o 1 Awst hyd 15 Awst.

Dyma’r cyfle olaf yn 2018 i sefydliadau i wneud cais am arian, a hyd yn hyn eleni cefnogwyd dros 350 o gynlluniau ar draws Prydain Fawr. Gyda’r mentrau a ariannwyd eisioes yn amrywio o gorau cymunedol i ofalwyr, i glybiau chwaraeon ac elusennau gwarchod bywyd gwyllt, mae hwn yn gyfle gwych i grwpiau i gael mynediad i nawdd a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn y gymuned leol.

Mae yna dair ymddiriedolaeth lle gall grwpiau wneud cais am arian.  Mae pob ymddiriedolaeth yn ffocysu ar thema benodol.  Mae Ymddiriedolaeth Côd Post gymunedol yn edrych am geisiadau ar fentrau a fydd yn elwa cymunedau drwy raglenni lles a iechyd sylfaenol; mae Ymddiriedolaeth Côd Post y Bobl yn cefnogi cynlluniau sy’n hyrwyddo iawnderau dynol, cyflogaeth ac yn mynd i’r afael â thlodi, tra bod yr Ymddiriedolaeth Côd Post Lleol yn canolbwyntio ar gynlluniau a fydd yn yn gwella bio amrywiaeth a llecynnau gwyrdd.

Gan dynnu sylw at y cyfle, dywedodd Ben Lake AS:

“Mae cymaint o gynlluniau cymunedol rhagorol yng Ngheredigion all elwa o’r cyfle gwych hwn i sicrhau arian, i roi hwb cychwynnol i fenter neu ehangu cyrhaeddiad y gwasanaeth.  Ar draws y dair ymddiriedolaeth mae cyfle i amrywiaeth eang o sefydliadau i elwa, a byddwn yn eu hargymhell yn gryf i ymweld â’r wefan, ac i ddod o hyd i ble mae eu cynllun yn perthyn ac i gyflwyno cais.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.