Elin Jones yn dathlu 500 mlynedd o'r Post Brenhinol ac yn trafod dyfodol Swyddfa Bost Aberystwyth
Mynychodd Elin Jones, AC Plaid Cymru Ceredigion, ddigwyddiad i ddathlu pen-blwydd y Post Brenhinol yn 500 yr wythnos hon.
Rhoddodd y digwyddiad yn y Cynulliad Cenedlaethol gyfle i Aelodau Cynulliad drafod y pen-blwydd pwysig hwn.
Daeth y digwyddiad yn ystod wythnos o ddigwyddiadau post i AC Ceredigion, wrth iddi gwrdd hefyd â swyddogion y Swyddfa Post i drafod cynlluniau ar gyfer eu cangen ar Stryd Fawr, Aberystwyth.
Dywedodd Elin:
“Rwy’n gwybod bod yna lawer o bryder wedi bod ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth post yn Aberystwyth, a chodais y pryderon hyn yn uniongyrchol gyda’r Swyddfa Post yr wythnos yma.
“Codais fy mhryderon ynglŷn â chynnal yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl Aberystwyth, yn ogystal â’m mhryderon ynglŷn â mynediad i’r gangen a triniaeth o’r staff pe bai’r symud safle yn mynd yn ei flaen.
“Roeddwn yn falch o glywed bod y Swyddfa Bost yn cymryd y materion hyn i gyd o ddifrif, ac yn cynnal arolwg o’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad.
“Fodd bynnag, rwy’n dal heb fy argyhoeddi y bydd y gwasanaeth yn gwella drwy symud o’i safle presennol ar y Stryd Fawr.”