Mae’r Office of Rail and Road wedi lansio ymchwiliad i brydlondeb a dibynadwyedd trenau yn rhanbarth Network Rail Wales & Western yn ystod misoedd olaf y llynedd.
Mae’r ymchwiliad yn dilyn dirywiad parhaus ym mherfformiad y gwasanaeth drenau yn y rhanbarth ar adeg pan fod perfformiad y rhwydwaith ar draws Prydain Fawr i’w weld yn sefydlogi.
Fel rhan o ymchwiliad yr OOR, mynychodd Ben Lake AS ddigwyddiad yn y Senedd er mwyn trosglwyddo pryderon trigolion Ceredigion am y gwasanaeth rheilffordd o Aberystwyth i’r Amwythig.
Mae Ben Lake hefyd wedi ysgrifennu at Drafnidiaeth i Gymru i ofyn am ddiweddariad ar uwchraddio’r gwasanaeth rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, pan fydd stoc newydd yn cael ei gyflwyno ar hyd lein y Cambrian.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae nifer o drigolion Ceredigion yn poeni am safon y gwasanaeth i deithwyr ar hyd lein y Cambrian, ac rwyf wedi derbyn nifer o gwynion am oedi difrifol a diffyg cerbydau ar y gwasanaeth sy’n rhedeg rhwng Aberystwyth a’r Amwythig.”
“Er bod perfformiad Network Rail wedi gwella mewn llefydd eraill ar y rhwydwaith, mae’r perfformiad yn rhanbarth Wales & Western yn parhau i waethygu, sy’n cyfrannu at wasanaeth llai prydlon a dibynadwy.”
“Rwy’n cefnogi ymchwiliadau’r Office for Rail and Road i broblemau perfformiad y rhanbarth, ac rwy’n falch o fod wedi cael y cyfle i gyfrannu i’w hymchwiliadau. Rwy’n gobeithio bydd canlyniadau’r ymchwiliad yn sicrhau gweithredu brys er mwyn datrys y problemau a ganfuwyd fel bod teithwyr lein y Cambrian yn gallu mwynhau’r gwasanaeth dibynadwy safonol y maent yn ei haeddu.”
Dangos 1 ymateb