Mae pôl cynhwysfawr a gynhaliwyd yn ddiweddar gan gwmni uchel ei barch YouGov wedi rhoi hwb i ymgyrch etholiadol Ben Lake a Phlaid Cymru ar drothwy'r Etholiad Cyffredinol.
Roedd y pôl wedi'i seilio ar dros 100,000 o gyfweliadau dros gyfnod o saith diwrnod, ac mae'n rhoi Ben Lake ar y blaen yng Ngheredigion, gyda'r gefnogaeth iddo'n cynyddu i 32%.
O ganlyniad i'r pôl, mae'r ods wedi lleihau gyda'r bwcis, ac mae bellach yn ffefryn i ennill y sedd gyda sawl cwmni betio.
Dyma ganlyniadau llawn y pôl yng Ngheredigion:
Ben Lake, Plaid Cymru 32%
Democratiaid Rhyddfrydol 22%
Ceidwadwyr 21%
Llafur 13%
Brexit Party 8%
Gwyrdd 3%
Meddai Elin Jones, Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ceredigion,
"Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu'r hyn rydym yn ei weld ar stepen y drws, ac mae'n amlygu'r parch sydd gan bobol leol at Ben - am ei waith yn yr etholaeth ac am fod yn llais cryf yn San Steffan. Serch hynny, dyw hyn ddim yn rhoi esgus i ni orffwys ar ein rhwyfau, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n cofio mai dim ond un pôl sy'n cyfri yn y pen draw - yr etholiad ei hun. Byddwn yn parhau i gynnal ymgyrch gadarnhaol ac egnïol dros y bythefnos nesa."
Dangos 1 ymateb