AS Ceredigion yn galw am ddiwygio fformiwla ariannu'r heddlu

Ben_Lake_Lampeter_Police_Force.jpg

Ar 12 Medi cyfrannodd Ben Lake AS at y Cwestiwn Brys ar gynaliadwyedd ariannol heddluoedd.

Yn ddiweddar, bu Ben Lake AS yn cysgodi heddweision Heddlu Dyfed Powys yn y dref y mae’n byw ynddi, sef Llanbedr Pont Steffan. Cafodd gyfle i brofi amrywiaeth o agweddau ar blismona lleol gan gynnwys treulio amser gyda’r Tîm Plismona yn y Gymdogaeth, ymateb i alwadau a thrafod heriau plismona gyda heddweision ar y rheng flaen. Yn dilyn y profiad hwnnw, mae AS Ceredigion wedi annog y Gweinidog Plismona i ailystyried y fformiwla ar gyfer ariannu’r heddlu, er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu’n well yr heriau penodol sy’n wynebu ardaloedd prin eu poblogaeth.

Yn ogystal, tynnodd Mr Lake sylw at yr angen i’r fformiwla ariannu ystyried y pwysau tymhorol ar ein heddluoedd, oherwydd y cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth ardaloedd arfordirol yn ystod misoedd yr haf.

Meddai Ben Lake AS:

“Ar hyn o bryd, nid yw’r fformiwla a ddefnyddir i ddosbarthu grant Llywodraeth y DU yn cydnabod yn ddigonol anghenion ardaloedd gwledig, megis yr ardal y mae Heddlu Dyfed Powys yn ei gwasanaethu, ac nid yw chwaith yn ystyried y cynnydd sylweddol yn y boblogaeth yn ystod misoedd yr haf mewn ardaloedd megis Ceredigion.

“Ni allwn ddisgwyl i ‘un ateb sy’n addas i bawb’ weithio’n effeithiol ar draws y DU gyfan, a gan hynny mae’n hollbwysig bod y meini prawf ar gyfer grant y Llywodraeth ganolog yn cael eu diwygio i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r cynnydd yn y galw a’r heriau unigryw sy’n wynebu heddluoedd yng nghefn gwlad.”

Derbyniodd Nick Hurd AS, y Gweinidog Plismona, y pwyntiau dilys a godwyd gan Mr Lake, a chadarnhaodd y byddent yn cael eu hystyried ymhellach yn rhan o Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU.

Ychwanegodd Mr Lake:

“Mae cyllid annigonol yn golygu bod disgwyl i heddluoedd a heddweision ar draws Cymru gyflawni gormod heb ddigon o adnoddau, a byddaf yn bachu ar bob cyfle i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw fformiwla ariannu yn y dyfodol yn adlewyrchu’n well y costau sy’n gysylltiedig â mynd i’r afael â throseddu mewn ardaloedd sy’n brin eu poblogaeth ond sy’n eang o safbwynt daearyddol.

“Caiff ei gydnabod yn helaeth bod heddluoedd yng Nghymru wedi dioddef dan y fformiwla ariannu bresennol, felly mae’n hen bryd i Lywodraeth y DU naill ai ddiwygio’r fformiwla er mwyn mynd i’r afael â’r tanfuddsoddi hwn, neu ddatganoli’r cyfrifoldeb am blismona i Lywodraeth Cymru, er mwyn i’r llywodraeth honno fynd i’r afael â’r broblem drosti ei hun.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.