Mae Ben Lake, ymgeisydd Plaid Cymru dros Geredigion wedi amlinellu ei ymrwymiad i barhau i ymladd dros ddatganoli plismona i Gymru.
Rhwng 2010 a 2018, gostyngodd nifer yr heddweision yng Nghymru 9% - gyda chefn gwlad Cymru wedi’i daro’n nodedig yn sgil fformiwla ariannu annheg a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU.
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi y byddent yn creu cronfa atal troseddau newydd gwerth £50m i recriwtio 1,600 o heddweision ychwanegol trwy ddatganoli plismona. Byddai'r cynllun yn gweld mwy o bresenoldeb heddlu yn lleol, ac yn helpu i sicrhau heddweision mewn cymunedau lleol - yn hytrach na chael eu hymestyn dros ardaloedd daearyddol mawr heb lawer o adnoddau.
Yn gynharach eleni, argymhellodd Comisiwn a benodwyd gan Lywodraeth Cymru y dylai Cymru gael rheolaeth lawn ar ei system gyfiawnder, gan gynnwys pwerau i redeg plismona - gydag astudiaethau pellach yn awgrymu y byddai pedwar llu heddlu Cymru yn elwa o £25m ychwanegol pe byddai plismona'n cael ei ddatganoli.
Dywedodd Ben Lake:
“Dro ar ôl tro, mae cyllidebau’r heddlu wedi cael eu torri gan Lywodraeth y DU, sy’n golygu bod llawer llai o blismyn gan luoedd heddlu Cymru. Mae lluoedd Cymru a chymunedau cefn gwlad wedi cael eu taro’n nodedig o galed, oherwydd fformiwla ariannu annheg y Swyddfa Gartref.
“Ers fy ethol yn 2017, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith niweidiol y mae’r trefniant cyllido hwn yn ei gael ar heddluoedd a chymunedau Cymru – ac roedd yn rhywbeth yr oeddwn yn falch o’i godi yn y siambr yn San Steffan.
“Ni allwn ddisgwyl i ddull unffyrdd o gyllido’r heddlu weithio'n effeithiol ledled y DU gyfan, ac mae'n hanfodol bod y meini prawf ar gyfer grant y Llywodraeth ganolog yn cael ei hadolygu i adlewyrchu'r gofynion a'r heriau unigryw sy'n wynebu heddluoedd gwledig mewn ardaloedd fel Ceredigion.
“Mae’n parhau i fod yn annerbyniol mai Cymru yw’r unig genedl yn y DU heb bwerau dros blismona a chyfiawnder, yn enwedig o ystyried y budd ariannol clir y byddai datganoli yn ei gael.”