Ben Lake AS yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gadw at ei addewidion i orllewin Cymru

270618_PMQs.png

Mae AS Ceredigion wedi galw ar y Prif Weinidog i ymrwymo i Gytundeb Twf Canolbarth Cymru

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe tynnodd Ben Lake AS sylw at y tlodi yng ngorllewin Cymru o’i gymharu ag ardaloedd eraill yng ngorllewin Ewrop. Er bod gorllewin Cymru gydag un o’r ardaloedd mwyaf tlawd nid yn unig yn y Deyrnas Gyfunol ond yng ngorllewin Ewrop, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi tynnu yn ôl ar nifer o addewidion i fuddsoddi yng Nghymru, yn cynnwys datblygu Morlyn Llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru a’r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe. 

Galwodd Ben Lake ar y Prif Weinidog i ymrywmo i'w addewid i roi Cytundeb Twf Economaidd ar waith yn nghanolbarth Cymru. Er i’r cytundeb gael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2017, nid oes llawer o fanylion wedi’u cyhoeddi gan y Llywodraeth eto. Gofynnodd Mr Lake a fyddai’r Cytundeb Twf yn “dioddef yr un dynged” â Morlyn Llanw Abertawe a’r cynlluniau i drydaneiddio rheilffyrdd Cymru, gan godi’r cwestiwn a yw’r Llywodraeth o’r farn nad yw Cymru yn haeddu unrhyw fuddsoddiad.  

Dywedodd Ben Lake AS:

“Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yw’r rhanbarthau tlotaf yng ngogledd Ewrop yn ôl ffigurau swyddogol Eurostat, ac eto mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau i dynnu nôl ar ei addewidion i fuddsoddi mewn isadeiledd hanfodol a phrosiectau fyddai’n hybu economi ledled Cymru.

"Mae’n gwbl hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn buddsoddi yng Nghymru nid yn unig os ydym am wynebu’r heriau economaidd a ddaw yn sgil Brexit, ond hefyd i wneud yn iawn am ddegawdau o ddiffyg buddsoddiad yn isadeiledd a sgiliau yng ngorllewin Cymru. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol roi ymrwymiad pendant i Gytundeb Twf Canolbarth Cymru os yw am fod yn llwyddiant, ac rwy’n croesawu’r cyfle i weithio gyda swyddogion ac ASau cyfagos er mwyn sicrhau ein bod, o'r diwedd, yn derbyn ein cyfran teg o’r buddsoddiad.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.