Mae Ben Lake AS Plaid Cymru wedi galw ar Brif Weinidog y DU i gefnogi pobl fregus sy'n gaeth ar ôl hunanynysu ac sy'n methu sicrhau gwasanaeth cludo bwyd yn sesiwn cwestiynau olaf y Prif Weinidog tan o leiaf ar ôl y Pasg.
Tynnodd Mr Lake sylw at achos etholwyr a oedd wedi bod mewn cysylltiad, am eu bod yn pryderu na allent gael bwyd wedi’i gludo i’r tŷ tan 16 Ebrill. Mae'r ddau a gysylltodd yn byw mewn ardal wledig ac yn cymryd mesurau 'gwarchod' oherwydd cyflwr iechyd.
Yn ystod y sesiwn PMQs, diolchodd Mr Lake hefyd i "weithwyr iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, athrawon, glanhawyr a phawb oedd yn ymladd y firws hwn ar y rheng flaen."
Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, dywedodd Ben Lake AS:
"Mr Llefarydd, hoffwn gyfleu ar goedd ddiolch Plaid Cymru i'r holl weithwyr iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, athrawon, glanhawyr a phawb sy'n ymladd y firws hwn ar y rheng flaen.
"Ffoniodd etholwr oedrannus fy swyddfa heddiw yn siomedig ei bod hi a'i gŵr yn brwydro am ffyrdd o gael bwyd. Mae'r ddau yn fregus, ac mae'r ddau yn hunanynysu yn ôl Cyngor y Llywodraeth. Dywedwyd wrthynt mai'r dyddiad nesaf ar gyfer cludo bwyd i’w cartref oedd Ebrill 16eg.
"Pa gymorth all y Llywodraeth ei gynnig i sicrhau bod pobl fregus mewn ardaloedd anghysbell a gwledig, fel Ceredigion, yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer dosbarthu bwyd?
Ymatebodd y Prif Weinidog drwy gyfeirio at y gwirfoddolwyr, ond dywedodd y byddai'n ymgymryd â’r achos yn ddi-oed pe bai angen.
Yn dilyn y sesiwn dywedodd Mr Lake:
"Mae’n gyfnod eithriadol, ac rydym yn gweld mesurau digynsail gan y Llywodraeth, yn ogystal ag ymdrechion arwrol gan bobl ar y rheng flaen.
"Mae pobl yn wynebu pwysau enfawr, ac rwy'n deall y pryder y maent yn ei wynebu, ond mae prynu panig - a'r galw y mae hyn yn ei roi ar wasanaethau presennol - yn cyfyngu ar allu pobl fregus a'r rheini sy'n hunanynysu i gael bwyd a nwyddau hanfodol. Mae gwirfoddolwyr rhyfeddol eisoes yn gwneud yr hyn a allant i gael bwyd a meddyginiaeth i'r bobl hyn, ond mae angen mwy o weithredu ac, os oes angen, cymorth gan y Llywodraeth i sicrhau nad yw unigolion mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell yn cael eu gadael ar ôl.
"Mae yna bobl fregus, sy'n dilyn cyngor swyddogol ar hunanynysu, sydd mewn perygl o redeg allan o hanfodion sylfaenol yn ystod yr wythnosau nesaf os nad yw rhywbeth yn newid."