Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood a Ben Lake, AS Ceredigion wedi ysgrifennu at ymgyrch WASPI yn canmol eu ‘hesiampl ysbrydoledig’ o ymgyrchu sylfaenol.
Mewn llythyr mae Leanne Wood, AC Rhondda a Ben Lake, AS Ceredigion wedi ymrwymo eu cefnogaeth gadarn i ymgyrch WASPI gan addo “gwneud popeth posib i sicrhau bargen deg i’r merched a effeithiwyd.”
Mae WASPI wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y modd mae Llywodraeth San Steffan yn delio â chydraddoliad oedran pensiwn gwladol a fu’n gyfrifol am chwalu cynlluniau ymddeol i ferched gyda chanlyniadau dinistriol.
Mae Plaid Cymru a WASPI wedi cefnogi’n gryf gydraddoliad i oedran pensiwn gwladol. Mae yna, fodd bynnag, ffyrdd llawer tecach i fynd o’i gwmpas – yn 2016 pasiwyd cynnig gan Blaid Cymru yn eu cynhadledd flynyddol yn gwrthwynebu y newidiadau ac yn galw ar Lywodraeth San Steffan i newid ffordd.
Mae Leanne Wood AC a Ben Lake AS wedi canmol yr ymgyrch ac wedi ymrwymo eu cefnogaeth i gynorthwyo WASPI tuag at gyrraedd y nod o gael trefniadau pensiwn gwladol teg i’r holl ferched a anwyd yn y 1950au sy’n cael eu heffeithio gan Ddeddf Pensiwn Gwladol (Deddfau1995/2011).
Mewn ymateb dywedodd Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru:
“Gallwn i gyd ddysgu llawer o ymgyrch WASPI. Mae’r hyn a gychwynnodd fel grŵp bychan o 5 o ferched, wedi datblygu’n fudiad sy’n denu cefnogaeth rhyngwladol, yn cefnogi merched sydd wedi eu heffeithio’n greulon gan y ddeddf ddidrugaredd hon o anghyfiawnder Toriaidd.
“Mae’r ymgyrch hon yn bwysig ac mae WASPI wedi bod yn llwyddiannus yn lledaenu’r neges – Theresa May, nid ydym am dawelu hyd nes y gwnewch ddarpariaeth i’r merched a’u teuluoedd a effeithir.
“Fel Plaid, mae Plaid Cymru wedi cefnogi WASPI ar hyd yr amser. Yn 2016, yn ein cynhadledd flynyddol fe wnaethom basio cynnig yn gwrthwynebu y newidiadau ac yn galw ar Lywodraeth Prydain i newid llwybr. Mae’n ASau wedi codi’r mater droeon yn San Steffan, yn cynnwys galw ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno trefniadau trawsnewid i ferched WASPI, gan gyflwyno’r newidiadau yn raddol, a phensiwn pontio a iawndal i’r rhai a effeithir yn ystod y cyfnod rhwng 60 oed a’r oedran pensiwn gwladol newydd. Rydym yn falch i barhau i gefnogi WASPI ac yn addo cynorthwyo mewn unrhyw ffordd bosib.”
Dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion:
“Bu’n fraint cydweithio gydag ymgyrch WASPI, mudiad sydd mor angenrheidiol ac anrhydeddus. Mae’n bwysig ein bod yn cadw’r achos pwysig hwn yn y ddeialog wleidyddol; ein bod yn dal i wthio ar i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol newid llwybr a sicrhau adaliad cywir i’r merched a’u teuluoedd a effeithir.
“Mae merched yng Nghymru wedi cael eu taro’n arbennig o galed gan y broses annheg o gydraddoli oedran pensiwn gwladol, gydag oedran byw pobl yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn Lloegr, fel y mae incwm y pen. Er ein bod yn cytuno’n llwyr y dylai oed pensiwn gwladol fod yn gyfartal, nid oes cyfiawnhad mewn tynnu’r carped o dan draed merched sydd wedi gweithio’n galed, wedi talu eu trethi ac wedi cynllunio ar gyfer eu hymddeoliad, gan eu gadael ar brydiau mewn sefyllfaoedd truenus.
“Bellach, ni all Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol anwybyddu lleisiau’r miloedd o ferched a effeithiwyd gan yr achos hwn. Rwy’n falch o roi fy nghefnogaeth i ymgyrch WASPI ac i ymuno yn yr alwad ar i’r Prif Wenidog gymryd camau pendant."