Mae Ben Lake, AS Ceredigion yn annog elusennau ac achosion da lleol i wneud cais am gyllid o dros £3miliwn sydd wedi ei sicrhau gan chwaraewyr Loteri Côd Post y Bobl.
Mae’r ceisiadau yn agored rhwng 6ed a’r 20fed o Chwefror lle gall amrywiaeth o achosion da, yn amrywio o fentrau cymdeithasol i grwpïau gwirfoddol ac elusennau cofrestredig fod yn gymwys i wneud cais am grantiau rhwng £500 ac £20,000.
Mae’r gefnogaeth ariannol ar gael drwy dair ymddiriedolaeth wahanol sy’n cael eu cyllido yn gyfan gwbl gan chwaraewyr Loteri Côd Post y Bobl a’u hunig bwrpas yw cefnogi pobl a’u cymunedau ar draws Prydain Fawr. Mae pob ymddiriedolaeth yn cefnogi prosiectau sy’n ffocysu ar themáu penodol:
- Ymddiriedolaeth Côd Post y Bobl ar gyfer cyllido prosiectau sydd wedi eu hanelu at hyrwyddo iawnderau dynol, mynd i’r afael â gwhaniaethu ac atal troseddu
- Ymddiriedolaeth Côd Post Cymunedol yn cefnogi mentrau sy’n gweithio i wella iechyd a lles cymunedau, gan gynnwys y celfyddydau a phrosiectau gweithgareddau hamdden, yn ogystal â’r rhai sy’n ffocysu ar leihau teimladau ynysig
- Ymddiriedolaeth Côd Post Lleol sy’n awyddus i glywed gan grwpïau sy’n gweithio ar fesurau atal llifogydd a’r rhai sy’n edrych am weithredu strategaethau ynni adnewyddol. Hefyd maent eisiau eich cais os ydych yn ymrwymedig i wella llefydd awyr agored, pa un a yw hwnnw yn barc chwarae, yn barc sglefrio neu rywbeth arall!
Ymhlith dros 1600 o brosiectau a lwyddodd gyda’u ceisiadau ac a dderbyniodd gyllid yn 2018 mae enghreifftiau megis grwpiau chwaraeon i gyn filwyr, gwsanaethau cefnogaeth cwnsela ar gyfer gofalwyr ifanc a pharciau chwarae hygyrch. Cynghorir achosion da lleol i fanteisio ar y cyfle gwych hwn drwy ddarllen y canllawiau byr sydd ar gael ar gyfer cyllido ac i wneud cais i’r ymddiriedolaeth sy’n fwyaf addas ar gyfer amcanion eu prosiect.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae cyllid gan chwaraewyr Loteri Côd Post y Bobl yn gwneud gwahaniaeth mawr i filoedd o achosion da ar draws y wlad.
“Rwy’n gwybod bod yna lawer o achosion da yn fy etholaeth a fyddai wrth eu bodd yn cael hwb ariannol ar gyfer prosiect benodol.
“Felly rwy’n annog unrhyw elusen leol ac achosion da sy’n edrych am gyllid i wneud cais cyn gynted â phosib.”
Mae isafswm o 32% o bob tocyn Loteri Côd Post y Bobl yn mynd yn uniongyrchol i achosion da. Hyd yn hyn, mae charaewyr Loeteri Côd Post y Bobl wedi codi dros £382 miliwn i dros 5,500 o achosion da ar draws Prydain ac yn rhyngwladol.
Am ragor o fanylion, i weld y canllawiau cyllido ac i ymgeisio ewch yn uniongyrchol os gwelwch yn dda i wefannau yr ymddiriedolaethau: