Roedd y Guildhall, Aberteifi yn orlawn ar 26 Gorffennaf gyda merched o Geredigion a anwyd yn y 1950au, a’u teuluoedd, sydd wedi eu heffeithio gan y newidiadau diweddar yn y pensiwn gwladol gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Mae Ben Lake, AS Ceredigion, a drefnodd y cyfarfod, yn cefnogi ymgyrch Merched yn erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn Gwladol (WASPI) sy’n protestio yn erbyn y newidiadau a wnaed gan y llywodraeth i oedran pensiwn gwladol, ac sy’n effeithio'n arbennig ar ferched a anwyd yn y 1950au.
Mae tua 5000 o ferched yng Ngheredigion a oedd wedi disgwyl ymddeol yn 60 wedi cael gwybod, rhai ohonynt gyda rhybudd deunaw mis yn unig, y bydd yn rhaid iddynt aros hyd at 6 mlynedd arall am eu pensiwn. Amcangyfrifir y bydd rhai merched y colli allan ar dros £40,000 mewn taliadau pensiwn.
Dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion, a drefnodd y cyfarfod:
“Mae merched a gafodd eu geni yn y 1950au yn colli allan ar daliadau pensiwn oherwydd bod Llywodraeth Prydain wedi codi oed pensiwn o 60 i 66. Deunaw mis o rybudd yn unig gafodd rhai i hyn ac nid yw’n ddigon o amser i wneud cynlluniau.”
Yn ystod y cyfarfod rhannodd nifer o ferched eu storïau a’u profiadau personol – llawer ohonynt yn brwydro i gael deupen llinyn ynghyd, ac yn wynebu posibilrwydd o fyw’n barhaol drwy eu hymddeoliad o dan llinell dlodi. Nododd nifer o ferched, yn sgîl problemau iechyd hir dymor, y byddai’n anodd iawn iddynt gario ymlaen i weithio tan 66 mlwydd oed, ond bo’r newidiadau hyn a diffyg rhybudd digonol o’r Llywodraeth wedi eu gadael heb unrhyw ddewis.
Ychwanegodd Mr Lake:
“Rhoddodd y cyfarfod hwn gyfle i ferched lleol sydd wedi eu heffeithio gan newidiadau yn y pensiwn gwladol i ddod at ei gilydd, i glywed mwy am yr ymgyrch a gobeithio medru cymryd rhan mewn protestiadau yn erbyn y newidiadau sy’n cael eu gwthio arnynt. Po fwyaf o ferched sydd ynghlwm â’r ymgyrch, gorau oll fo’r siawns i weinidogion gymryd sylw a dod â thegwch i’r rhai sydd wedi eu heffeithio.”
Ar ddiwedd y cyfarfod roedd yna frwdfrydedd mawr i sefydlu grŵp ymgyrch WASPI Ceredigion er mwyn codi proffil o’r anghyfiawnder hwn ymysg gweddill y miloedd o ferched ar draws Ceredigion sydd wedi eu heffeithio gan y newidiadau hyn. Bydd cyfarfod cyhoeddus cyffelyb ar gyfer etholwyr yng ngogledd y sir yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnosau nesaf.
Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch cysylltwch â swyddfa Ben Lake AS: [email protected] / 01570 940333