AS Ceredigion yn addo mynd i'r afael â thlodi ymhlith pensiynwyr

cristian-newman-CeZypKDceQc-unsplash.jpg

Mae AS Ben Lake wedi addo helpu i fynd i’r afael â lefelau cynyddol o dlodi pensiynwyr.  Er bod tlodi yn y boblogaeth gyfan wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2012, canfu’r data, a ddadansoddwyd gan yr elusen genedlaethol Independent Age bod tlodi pensiynwyr wedi cynyddu 5% ledled y DU, gyda bron i un rhan o bump o bensiynwyr (18%) yn byw mewn tlodi ar ôl talu costau eu cartref.

Dywed Independent Age y gallai’r ffigurau cynyddol hyn gael eu lleihau’n sylweddol pe bai pobl yn derbyn y cymorth ariannol y maent yn deilwng iddo trwy Gredyd Pensiwn - arian ychwanegol sydd ar gael i helpu gyda chostau byw i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Fodd bynnag, dyma’r budd-dal sy’n cael ei hawlio lleiaf o'r holl fudd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm ac nid yw wedi codi uwchlaw 64% ers bron i ddegawd.

I gefnogi hyn, mae Ben Lake AS wedi llofnodi llythyr trawsbleidiol at y Gweinidog Pensiynau, Guy Opperman AS, yn galw ar y Llywodraeth i gynhyrchu cynllun gweithredu i gynyddu’r nifer sy’n derbyn Credyd Pensiwn.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Mae’r ffaith bod lefelau tlodi pensiynwyr wedi codi’n ara’ bach yn ôl i’r niferoedd na welwyd ers 2012 yn frawychus, a rhaid mynd i’r afael â nhw.”

“Gall byw mewn tlodi effeithio ar bob agwedd o fywyd rhywun, ni ddylai unrhyw un orfod wynebu penderfyniadau amhosibl ar p’un ai cynhesu eu cartref neu brynu digon o fwyd i'w fwyta.”

“Dyna pam rwy’n cefnogi galwad Independent Age ar i’r llywodraeth lunio cynllun gweithredu ar Gredyd Pensiwn ar unwaith.” 

Yn ogystal â chynyddu incwm pobl, mae Credyd Pensiwn hefyd yn llwybr i fathau eraill o gefnogaeth, gan gynnwys Budd-dal Tai, trwydded deledu am ddim (i bobl dros 75 oed), presgripsiynau GIG am ddim, cymorth treth gyngor a phrofion llygaid am ddim. Gyda'i gilydd, gallai hyn fod gwerth oddeutu £7,000 y flwyddyn i unigolyn.

Mae Independent Age yn amcangyfrif bod pobl hŷn yn colli cyfanswm o £3.4 miliwn mewn Credyd Pensiwn. Yn ogystal â lleihau tlodi, gallai codi’r nifer sy'n derbyn Credyd Pensiwn yng Ngheredigion sicrhau £5.4 miliwn (ffigurau 2018/19) mewn arbedion i'r Trysorlys oherwydd bod gan y rhai sy'n gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn ond dim yn ei dderbyn, broblemau iechyd sy'n gofyn am gefnogaeth gan y GIG neu ofal cymdeithasol a ariennir y wladwriaeth.

Canfu ymchwil flaenorol a gomisiynwyd gan Independent Age y gallai cynhyddu’r nifer sy'n derbyn Credyd Pensiwn i’r eithaf, a sicrhau bod pawb sydd â hawl iddo yn ei dderbyn, weld tua 3 o bob 10 pensiynwr yn dod allan o dlodi a haneru’r nifer sy'n byw mewn tlodi difrifol.Fel rhan o’i ymgyrch ‘Credit where it’s due’, mae Independent Age wedi bod yn galw ers mis Gorffennaf 2019 am gynyddu’r nifer sy’n derbyn Credyd Pensiwn.

Yn gynharach yn y mis, cefnogodd y llywodraeth ddiwrnod ymwybyddiaeth Credyd Pensiwn (16 Mehefin). Mae'r elusen yn croesawu hyn fel cam cadarnhaol, ond dywed na fydd codi ymwybyddiaeth ynddo’i hun yn ddigon, gan fod maint y broblem yn gofyn am weithredu mwy brys ac arloesol.

Dywedodd Deborah Alsina MBE, Prif Weithredwr Independent Age:

“Diolch i Ben Lake AS am gefnogi ein hymgyrch Credit where it’s due.

“Mae lefelau tlodi pensiynwyr wedi bod yn codi’n ara’ bach am gyfnod rhy hir ac ni ellir anwybyddu'r ffrwydrad disgwyliedig yma.

“Rhaid i’r llywodraeth lunio cynllun ar unwaith i godi’r niferoedd sy’n derbyn Credyd Pensiwn, gan gynnwys ymgyrchoedd ymwybyddiaeth effeithiol, ymchwil i weld pwy sy’n colli cyfle a pham, gwell cyfathrebu â phobl sy’n gymwys, ac archwilio’r opsiynau ynglŷn â chofrestru awtomatig.”


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-06-25 12:35:53 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.