Croesawu ymrwymiad o gyllid ychwanegol i gwrdd â chostau pensiwn ysgolion a cholegau

Ysgol_Bro_Pedr.jpg

Cyhoeddodd Llywodraeth Prydain gynlluniau y llynedd i gyflwyno newidiadau i gynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus o fis Ebrill 2019 ymlaen.  Yn anad dim, mae’n ymwneud â gradd gostyngiad SCAPE a  bydd y newidiadau yn cynyddu cyfraniadau pensiwn cyflogwr o fis Ebrill 2019, ac yn gosod pwysau ariannol ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus sydd eisoes yn cael eu gwasgu.

Yng Nghyllideb yr hydref neilltuodd Llywodraeth Prydain £4.7bn i gynorthwyo sefydliadau y sector gyhoeddus i gwrdd â’r costau hyn yn 2019-20, ond ni ddarparwyd manylion ynglŷn â sut y byddai’r cyllid hwn yn cael ei ddosrannu, ac a fyddai unrhyw gyllid ar gael i Gymru.

Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw addysg, byddai’r newidiadau i gyfrifoldebau cyflogwr o dan Gynllun Pensiwn Athrawon yn cael effaith sylweddol ar gyllideb ysgolion a cholegau yng Nghymru – byddai Cyngor Sir Ceredigion yn edrych ar ariannu bwlch o 1.7miliwn yn eu cyllideb addysg.

Cododd Ben Lake AS y mater yn y Tŷ Cyffredin ac ysgrifennodd at y Trysorlys yn galw ar ymrwymiad oddi wrth Lywodraeth Prydain y byddai cyllid ar gael i gwrdd â chyfraniadau pensiwn cynyddol i ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Yn dilyn pwysau gan AS Ceredigion, cadarnhawyd yr wythnos ddiwethaf y bydd cyllid ychwanegol ar gael i sefydliadau y sector gyhoeddus yng Nghymru er mwyn iddynt fedru cwrdd â’r costau ychwanegol ynghlwm â’r newidiadau pensiwn hyn.

Dywedodd Ben Lake:

“Heb  y cyllid ychwanegol byddai’r ymgodiad yng nghyfradd cyfraniadau pensiwn cyflogwr yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar gyllidebau addysg sydd eisioes yn dioddef.  Yn ystod y misoedd diwethaf mae ysgolion, colegau a’r awdurdod lleol wedi egluro’n glir i mi nad oes unrhyw fodd amsugno y costau ychwanegol heb gael effaith negyddol ar staffio ac adnoddau dysgu, ac ar addysg ein pobl ifanc.

“Er fy mod yn croesawu’r datganiadau oddi wrth Trysorlys Prydain a Llywodraeth Cymru y bydd arian ychwanegol ar gael i’n hysgolion a’n colegau i gwrdd â chostau pensiwn uwch, credaf heb amheuaeth bod gwir angen llawer mwy o fuddsoddiad ar ein hysgolion a’n colegau os ydym am wireddu ein dyheadau ar gyfer yr addysg a sgiliau a gynnigir i’n pobl ifanc.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.