Mae Elin Jones AS a Ben Lake AS wedi galw ar aelodau Bwrdd Iechyd Hyweld Dda i gadw’r gwelyau i gleifion preswyl yn Ysbyty Tregaron hyd nes fydd Canolfan Gofal Integredig Cylch Caron yn weithredol.
Disgwylir i’r Bwrdd wneud ei benderfyniad terfynnol ar ddyfodol y gwelyau yn Nhregaron ddydd Mercher nesaf, y 25 o Fedi.
Dywedodd Elin Jones AS: “Y disgwyliad wastad oedd byddai defnydd o’r gwelyau yma yn Nhregaron yn parhau hyd nes fod prosiect Cylch Caron yn weithredol, ac mae’n drueni fod sawl her wedi oedi’r brosiect. Bydd yn hynod o siomedig os fydd y Bwrdd Iechyd yn cael gwared o’r gwelyau i gleifion preswyl cyn bod prosiect Cylch Caron yn ei le. Mae Tregaron yn gyfleuster hynod o bwysig yn lleol sy’n galluogi cleifion sydd wedi eu trin ym Mronglais i gael gofal digonol cyn iddynt ddychwelyd gartref. Mae yna hefyd wely gofal lliniarol yn Nhregaron, a gan nad oes gyda ni hosibs breswyl yng Ngheredigion, mae’r gwely yma wedi ei ddefnyddio gan nifer dros y blynyddoedd i dderbyn gofal diwedd oes addas.”
Dywedodd Ben Lake AS: “Rydym yn deall taw staffio a recriwtio yw prif reswm dros benderfyniad y Bwrdd Iechyd, ond rydym hefyd wedi deall fod yna le i wneud fwy o recriwtio wedi ei dargedu. Fydden i’n annog y Bwrdd Iechyd i wella ei hymdrechion recriwtio a gohurio cau unrhyw wasanaeth hyd nes fod Cylch Caron ar agor.”
Dangos 1 ymateb