Mae Plaid Cymru Ceredigion wedi talu teyrnged i’r Cynghorydd Paul James, a fu farw yn sydyn mewn gwrthdrawiad yr wythnos hon.
Roedd Paul James, cynghorydd Sir Ceredigion dros ward Llanbadarn Fawr, ward Sulien, wedi bod yn hyfforddi ar gyfer taith feicio o Aberystwyth i Abertawe, er mwyn codi £10,000 ar gyfer wardiau Cardiac ysbytai Bronglais a Threforys.
Dywedodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion:
“Mae’n newyddion torcalonnus i glywed am golli fy ffrind annwyl Paul James. Mae ei farwolaeth yn golled enfawr i gynifer o bobl ac i'r achosion a gefnogodd, ond yn arbennig i'w deulu.
“Roedd Paul James yn gymeriad mawr, ym mhob ystyr o’r gair. Bu iddo fyw bywyd llawn - o fod yn aelod o’r Lleng Tramor i fod yn Gynghorydd Plaid Cymru. Roedd Paul James yn gorwynt o ddyn ac yn ffenomenon gwleidyddol – byth yn hapus os nad oedd yn ennill dros 80% o’r bleidlais yn ei ward – ac mi roedd yn gwneud hynny yn amlach na pheidio.
“I Paul, ei deulu ddaeth yn gyntaf, yna ei breswylwyr yn y ward, ac yna’r gweddill ohonom. Fe wasanaethodd ei gymuned, Llanbadarn Fawr – Sulien, gydag angerdd a brwdfrydedd ac fe roedd yn ffyddlon i’w holl achosion da.
“Mi fydd bywyd Ceredigion yn llawer gwacach heb Paul. Mi welai i ei eisiau yn fawr iawn.
“Diolch iddo am ei gwmni a’i gymwynas.”
Dywedodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion:
“Roedd derbyn y newyddion am farwolaeth sydyn Paul yn sioc ac yn dristwch enbyd.
“I’r rheiny oedd yn ddigon ffodus o fod wedi’i adnabod, roedd Paul yn gymeriad heb ei ail ac yn gawr yn ei gymuned. Yr hyn oedd yn bwysig iddo bob amser oedd ei benderfynoldeb i helpu pobl mewn angen.
“Anfonaf fy nghymdeimladau dwysaf i’w deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.”