Cabinet Plaid Cymru yn Penderfynu i Beidio â Chodi Tâl am Barcio ar Bromenâd Aberystwyth

Cabinet Plaid Cymru yn Penderfynu i Beidio â Chodi Tâl am Barcio ar Bromenâd Aberystwyth

Ar 7fed o Dachwedd 2023, penderfynodd Cabinet Plaid Cymru Cyngor Ceredigion i beidio â pharhau ag awgrym i godi tal am barcio ar Bromenâd Aberystwyth.

Cafodd y syniad ei gynnig gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus y cyngor, sy’n cynnwys cymysgedd o gynghorwyr meinciau cefn o bob rhan o’r sir, fel rhan o becyn o fesurau parcio ar gyfer trefi o amgylch y sir. Cytunodd y cabinet i 'nodi' y cynnig yn unig ac i beidio â gweithredu.

Dywedodd Cyng Alun Williams:

“Mewn trafodaethau, nodwyd bod nifer o fentrau'n debygol o effeithio ar y prom. Mae’r rhain yn cynnwys prosiect yr Hen Goleg (ar y gweill ar hyn o bryd), cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer ardal yr harbwr a chynllun amddiffyn rhag y môr posibl.  

Mae’r prosiectau hyn yn debygol o gymryd nifer o flynyddoedd ac felly, hyd yn oed os bernir ei fod yn ddymunol, yn ymarferol ni all y gwaith seilwaith sy’n gysylltiedig â threfnu codi tâl ar gyfer parcio ddigwydd yn y dyfodol rhagweladwy.”


Dangos 1 ymateb

  • Matt Adams
    published this page in Newyddion 2023-11-08 13:04:05 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.