Ben Lake AS yn ymweld â chanolfan newydd PAPYRUS ar gampws Prifysgol Aberystwyth

Ar ddydd Gwener (16 Chwefror) ymwelodd Ben Lake AS â chanolfan newydd PAPYRUS ar gampws Prifysgol Aberystwyth. Mae PAPYRUS (Prevention of Young Suicide) yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithio i atal hunanladdiad a hybu iechyd meddwl iach a lles emosiynol pobl ifanc. Mae’r elusen genedlaethol PAPYRUS yn ehangu ac mae ganddynt bedair swyddfa ar draws Cymru: yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Conwy ac Aberystwyth.

Dywedodd David Heald, Rheolwr PAPYRUS yng Nghymru:

“Roeddem yn falch o groesawu Ben Lake AS yma i’n canolfan newydd ar gampws Prifysgol Aberystwyth, lle clywodd am ein gwaith sy'n rhoi gobaith i blant a phobl ifanc sy’n brwydro gyda bywyd.

"Hunanladdiad yw achos pennaf marwolaeth pobl ifanc tan 35 yn y DU a bob blwyddyn rydym yn colli tua 200 o bobl yn eu harddegau i hunanladdiad. Y tu ôl i bob ystadegyn mae teulu sy’n cael ei adael mewn gwewyr, yn chwilio am ateb i’r cwestiwn na chaiff byth ei ateb, pam ni?

“Mae PAPYRUS yn credu bod modd osgoi nifer o hunanladdiadau. Er ein bod yn elusen genedlaethol rydym am fod mor lleol ac y gallwn, gan weithio o fewn ein cymunedau i achub bywydau ifanc."

 

Dywedodd Ben Lake AS:

“Roedd hi'n bleser cael ymweld â thîm PAPYRUS yn eu canolfan newydd yn Aberystwyth. Mae’r gwaith a wneir gan yr elusen ar lefel cenedlaethol a lleol yn anhygoel ac yn gallu newid bywyd unigolion a’u teuluoedd.

"Mae’r ffaith mai hunanladdiad yw achos pennaf marwolaeth pobl ifanc dan 35 yn y DU yn syfrdanol, ond rwyf yn hynod ddiolchgar i PAPYRUS am eu dyfalbarhad a'u gwaith yn y maes. Rwyf hefyd yn falch bod yr elusen wedi penderfynu sefydlu canolfan yn Aberystwyth, gan ddarparu cymorth ymarferol a gobaith i bobl ifanc Ceredigion, yn arbennig myfyrwyr, yn lleol.”

 

Am gymorth a chyngor ymarferol a chyfrinachol, cysylltwch â llinell gymorth PAPYRUS ar 0800 068 4141 neu tecstiwch 07860 039967 neu ebostwich [email protected]


Dangos 1 ymateb

  • Elain Roberts
    published this page in Newyddion 2024-02-20 10:14:56 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.