‘Rhaid i bobl Palestina gael amddiffyniad llawn gan wledydd sy’n parchu rheolaeth y gyfraith’ - Plaid Cymru

Mae Liz Saville Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi galw heddiw (dydd Llun 19 Chwefror) ar holl ASau Cymru i bleidleisio o blaid cynnig sy’n galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza ac Israel. 

 

Mae’r cynnig a gyflwynwyd gan yr SNP, sydd wedi’i arwyddo gan y tri aelod seneddol o Blaid Cymru, yn galw am “gadoediad ar unwaith”, ac am “rhyddhau’r gwystlon a gymerwyd gan Hamas ar unwaith” ac i ddod â’r “cosbi torfol o bobl Palestina” i ben.  Bydd hyn yn cael ei drafod ac yn mynd i bleidlais ddydd Mercher (21 Chwefror). 

Mae Liz Saville Roberts wedi annog ASau o Gymru i gefnogi cynnig yr SNP ddydd Mercher, gan feirniadu arweinydd Llafur, Keir Starmer and “fethu gwneud safiad o blaid dynoliaeth” hyd yma.  Ychwanegodd “rhaid i bobl Palesteina gael amddiffyniad llawn a chyson yr holl wledydd sy’n parchu rheolaeth y gyfraith.” 

Cefnogwyd cynnig Plaid Cymru yn y Senedd ar y 8fed o Dachwedd ar ôl i Lafur Cymru ymatal a chynnig pleidlais rydd i’r meinciau cefn.  Llwyddodd y cynnig, a oedd yn condemnio ymosodiadau Hamas ar ddinasyddion Israel, ac “ymosodiadau diwahân ar Gaza” gan lywodraeth Israel, gan 24 pleidlais, gyda 13 aelod o’r Senedd yn ymatal. 

 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: 

“Mae llywodraeth Israel wedi cadarnhau ei bod yn cynllunio ymosodiad ar raddfa fawr yn Rafah lle mae dros 1 miliwn o bobl wedi eu gorfodi i ffoi er diogelwch.  Does unman ar ôl iddynt fynd.  Byddai’n gwbwl ddiegwyddor ac yn anfaddeuol i’r Tŷ Cyffredin wrthod galwad am gadoediad ar unwaith yn wyneb y fath fygythiad. 

“Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw ar ASau Cymru i gefnogi cynnig cadoediad yr SNP dydd Mercher. Dylid fod wedi galw am gadoediad fisoedd yn ôl. O ystyried bod nifer y marwolaethau wedi codi dros 28,000, mae gennym y cyfle i sefyll dros ddynoliaeth a heddwch. 

“Dylai pobl Palesteina gael amddiffyniad llawn a chyson yr holl wledydd sy’n parchu rheolaeth y gyfraith.  Mae’r cynnig yn galw am gadoediad ar y ddwy ochr ac am ryddhau gwystlon a gymerwyd gan Hamas ar unwaith a diwedd ar y cosbi torfol ar bobl Palesteina. Mae’r cynnig yn glir; ond dyw safiad y Blaid Lafur ddim mor glir. Dyma gyfle i Keir Starmer wneud safiad dros ddynoliaeth o’r diwedd.” 


Dangos 1 ymateb

  • Elain Roberts
    published this page in Newyddion 2024-02-26 11:24:23 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.