Ben Lake AS wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor yn annog adfer cyllid UNRWA y DU
Mae Ben Lake AS, Llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Tramor, wedi galw heddiw (dydd Iau 11 Gorffennaf) ar David Lammy AS, yr Ysgrifennydd Gwladol Tramor, y Gymanwlad a Materion Datblygu newydd, i adfer cyllid i’r United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East (UNRWA) ar frys. Daw’r apêl mewn ymateb i’r argyfwng dyngarol difrifol sy’n dod i’r amlwg yn Gaza.
Yn ei lythyr mynega Mr Lake ei bryder dwfn am y trais parhaus a’r effaith ddinistriol ar boblgaeth gyffredin Gaza. Ers ymosodiadau Hamas ar y 7fed o Hydref, mae dros 38,000 o bobl, gan gynnwys mwy na 12,500 o fenywod a phlant, wedi cael eu lladd yn sgil gweithredoedd milwrol sydd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Israel. Anafwyd dros 88,000 o bobl eraill, gyda nifer yn dioddef o gyflyrau fydd yn newid eu bywydau.
Ym mis Ebrill, fe wnaeth Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid ar y pryd, David Lammy ddweud y byddai Llywodraeth Lafur DU y dyfodol yn ymrwymo i adfer cyllid ar gyfer UNRWA. Mae Ben Lake AS nawr yn ei annog i anrhydeddu'r ymrwymiad hwn ar unwaith ac i unioni safbwynt y DU â gwledydd fel Awstralia, Sweden, Japan a'r Almaen. Mae ailddatgan cefnogaeth i UNRWA yn hanfodol i gydnabod y rôl ganolog y mae'n ei chwarae yn yr ymdrechion dyngarol yn Gaza.
Ysgrifenna Ben Lake AS:
"Yn gyntaf, hoffwn eich llongyfarch ar eich penodiad fel Ysgrifennydd Gwladol. Rwy'n ysgrifennu gyda phryder difrifol am yr argyfwng dyngarol parhaus yn Gaza. Ers yr erchyllterau a gyflawnwyd gan Hamas ar Hydref 7fed, mae dros 38,000 o bobl, gan gynnwys dros 12,500 o fenywod a phlant, wedi cael eu lladd o ganlyniad i weithredoedd milwrol yn Gaza sydd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Israel. Mae 88,000 o bobl eraill wedi cael eu hanafu, llawer yn dioddef anafiadau fydd yn newid eu bywydau.
"Mae'r Cenhedloedd Unedig yn nodi bod seilwaith iechyd a chymdeithasol Gaza wedi cael ei wanhau'n ddifrifol gan ymosodiad Israel, gan olygu bod ei phoblogaeth yn hynod fregus. Ar ben hynny, mae arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig bellach wedi datgan bod newyn ledled Gaza, ac mae adroddiadau pryderus bod awdurdodau Israel yn parhau i rwystro mynediad a dosbarthiad cymorth dyngarol hanfodol.
"Mae’r United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East (UNRWA) yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrech hon gan mai nhw sy’n darparu’r cymorth mwyaf ar yr un pryd, a'r unig asiantaeth cymorth gyda'r adnoddau, yr arbenigedd a'r seilwaith i ddarparu'r cymorth brys sydd ei angen ar bobl Palestina. Heb seilwaith UNRWA cydnabuwyd y byddai ymdrechion cymorth dyngarol gan asiantaethau eraill yn Gaza naill ai'n dymchwel neu'n anweithredol ar adeg pan mae'n hanfodol bod yr holl ymdrechion a chydlynu cymorth hanfodol yn cael eu gwneud heb oedi na rhwystr.
“Nododd adroddiad annibynnol Colonna fod yr UNRWA yn angenrheidiol i ddatblygiad dynol ac economaidd y Palestiniaid, ac eto mae'n asiantaeth dan ymosodiad. Mae safleoedd UNRWA yn Gaza yn aml yn cael eu targedu gan gyrchau milwrol, tra bod ymdrechion helaeth yn cael eu gwneud i danseilio ei enw da yn rhyngwladol. Mae ymosodiadau hyd yn oed wedi bod ar y pencadlys yn Jerwsalem.
"Ym mis Ebrill, fe ymrwymoch chi, Lywodraeth Lafur DU’r dyfodol, i adfer cyllid ar unwaith ar gyfer UNRWA. Gofynnaf nawr eich bod yn anrhydeddu'r ymrwymiad hwn ar frys gan unioni safbwynt y DU â gwledydd fel Awstralia, Sweden, Japan a'r Almaen. Gofynnaf hefyd i chi ailddatgan cefnogaeth y DU i UNRWA er mwyn cydnabod y rôl ganolog y mae'n ei chwarae yn yr ymdrechion dyngarol yn Gaza."
Dangos 1 ymateb