Ben Lake AS yn ymuno â Which? i roi stop ar ffïoedd gorddrafft afresymol

pina-messina-465028-unsplash.jpg

Mae Ben Lake AS wedi ymuno gyda’r Gwasanaeth Defnyddwyr diguro, Which?, ynghyd â thros 80 o gyd aelodau seneddol i lofnodi llythyr i’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FCA) er mwyn rhoi stop ar ffïoedd gorddrafft afresymol.

Mae AS Plaid Cymru yn bryderus y gallai trigolion Ceredigion fod yn talu ffïoedd eithafol ar orddrafftiau na chafodd eu trefnu ymlaen llaw gyda rhai ohonynt o bosibl yn costio saith gwaith yn fwy na benthyciadau diwrnod cyflog yn ôl ymchwil newydd gan Which?.

Er gwaethaf archwiliad gan y rheolyddion, teimla Ben Lake AS nad oes digon wedi ei wneud i amddiffyn defnyddwyr rhag y taliadau eithafol hyn.

Dywedodd Ben Lake:

“Mae cwsmeriaid sy’n ariannol fregus yn cael eu gwthio i fwy o ddyled gan gostau benthyca na warantwyd.  Mae angen i’r rheolyddion gymryd camau brys i rwystro ffïoedd gorddrafft heb drefniant a diweddu costau annheg unwaith ac am byth.”

Fe wnaeth Which? dynnu sylw at y ffïoedd hyn am y tro cyntaf yn 2016, ond mae ymchwil newydd yn dangos bod y mater yn dal i fodoli.

Fe wnaeth y Gwasanaeth Defnyddwyr gymharu y gost o fenthyca £100 am 30 diwrnod mewn gorddrafft heb ei threfnu ar draws 16 o fanciau y stryd fawr gyda benthyciad diwrnod cyflog am yr un swm a thros yr un cyfnod o amser.  Ar y cyfan, roedd 13 o’r banciau a archwiliwyd yn codi pris mwy na chwmni benthyca diwrnod cyflog, a hyd yn oed symiau sylweddol uwch mewn nifer o achosion.

Yn y gorffennol fe wnaeth yr FCA gapio costau benthyciad diwrnod cyflog a fyddai’n golygu mai cost y benthyciad yn ein hachos ni fyddai £24.  Darganfu Which?:

  • Bod Santander ymron 7.5 gwaith yn uwch a £155 yn fwy costus gan godi mwy na chwmnïau benthyciad diwrnod cyflog drwy eu ffioedd gorddrafft twyllodrus.
  • Bod TSB dros 6.5 o weithiau yn fwy costus, gan godi £160.
  • Mae hyn yn cael ei ddilyn gan HSBC a First Direct – dros 6 gwaith yn uwch, ar £150.
  • Mae RBS a Natwest ar £144; 6 gwaith yn uwch.

Mae Which? ynghyd ag 84 AS o’r prif bleidiau yn awr wedi ysgrifennu llythyr i’r FCA yn mynnu bod yr FCA yn gweithredu ar frys i roi diwedd ar yr ymarfer annheg hwn trwy gyfyngu ar gostau gorddrafft heb drefniant i’r un lefel a gorddrafft gyda threfniant;

Dywedodd Gareth Shaw, Arbenigwr Ariannol Which?

“Mae’n frawychus bod y rhan fwyaf o fanciau yn cael caniatád i godi mwy na chwmnïau benthyciad diwrnod cyflog drwy’r ffïoedd gorddrafft twyllodrus hyn.  Gall y ffïoedd afresymol hyn gostio miloedd o bunnoedd y flwyddyn gan daro ar y rhai nad sy’n gallu eu fforddio.

“Ni all y rheolyddion oedi yn hwy.  Mae’n rhaid gweithredu ar frys i gyfyngu ar y codi prisiau hyn gan ddod â hwy’n gyfartal â ffïoedd gorddrafft wedi eu trefnu er mwyn dod â’r arfer annheg hwn i ben.”

Mae’r ffïoedd hyn yn arbennig o gostus gan fod costau bancio yn cael eu hychwanegu i’w cyfnod bilio misol, nid y nifer o ddiwrnodau mae’r arian yn cael ei fenthyca, sy’n golygu y gall cwsmeriaid wynebu mwy o gostau wrth fynd ar draws dau gyfnod codi arian.  Mae’r Awdurdod Cystadlu a Marchnadoedd wedi ei roi ar waith i ymdrin â’r mater trwy gyflwyno tâl uchafswm misol am gorddrafftiau heb eu trefnu ym mis Awst y llynedd – ond mae’n eglur bod y mesur wedi methu ag atal banciau rhag codi graddau uchel iawn.  Yn y cyfamser, mae’r FCA wedi addo yn y gorffennol i daclo y broblem, ond wedi oedi rhag ymgynghori ar ymyriadau gwir angen gan adael pobl i barhau i wynebu y ffïoedd afresymol hyn.

Ers i Which? alw ar y banciau i ostwng eu ffïoedd heb drefniant mae Grŵp Bancio Lloyds wedi gweithredu ar y galw ac wedi gwaredu ffïoedd gorddrafft heb drefniant, sy’n golygu mai hwy sydd bellach â’r costau isaf ymysg y banciau a archwiliwyd - £19.80 yn rhatach na benthyciad diwrnod cyflog ar dim ond £4.20.  Yn y cyfamser mae Santander hefyd wedi ymrwymo i alwadau Which ac yn dileu ffïoedd ar gorddrafftiau didrefniant ar eu cyfrifon cyfredol o fis Gorffennaf y flwyddyn hon – er na fydd hyn yn weithredol ar gyfrifon eraill Santander.  Mae Which? a’r gwleidyddion yn galw yn awr ar fanciau eraill i ddilyn ar frys eu hesiampl.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.