Dewch yn llu i noson ocsiwn i godi arian at ymgyrch Ben Lake. Bydd yr ocsiwn yn cael ei chynnal ar 10 Tachwedd am 7:30pm yng Ngwesty'r Marine, Aberystwyth. Mae croeso cynnes i bawb gan gynnwys aelodau a chefnogwyr felly anogwch eich teulu a'ch ffrindiau i ymuno yn yr hwyl.
Mae dros 60 o eitemau arbennig ar gael; o benwythnosau bant i gelf i dalebau cinio dydd Sul. Mae digon o amrywiaeth a rhywbeth sydd yn addas i bawb. Gallwch anfon eich cynigion o flaen llaw drwy e-bostio Elwyn Jones ar [email protected]. Cliciwch yma i weld rhestr o'r holl eitemau.
Bydd yr arian i gyd yn mynd at ymgyrch Ben Lake yng Ngheredigion Preseli. Caiff pob cyfraniad ei werthfawrogi'n fawr.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Dangos 2 o ymatebion