Cytundeb Seland Newydd-DU: 'Ni fydd geiriau cysurlon yn ddigon' i ffermwyr Cymru

judith-prins-AJa7S1fjy-I-unsplash.jpg

Mae dadansoddiad y Llywodraeth ei hun yn dangos y bydd cytundeb masnach â Seland Newydd yn torri swyddi yn y byd amaeth.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar amaethyddiaeth yn San Steffan, Ben Lake AS, wedi dweud heddiw (21 Hydref) "na fydd geiriau cysurlon yn ddigon" i ffermwyr Cymru sy'n pryderu am effaith cytundeb masnach Seland Newydd, a gyhoeddwyd neithiwr.

Canfu dadansoddiad gan Lywodraeth y DU y llynedd y byddai ei effaith ar CDG Prydain yn debygol o gael "effaith gyfyngedig ... yn y tymor hir" - byddai rhwng twf cadarnhaol o 0.01% neu dwf negyddol o -0.01%. Daeth y dadansoddiad i'r casgliad hefyd y byddai cytundeb yn gweld "gostyngiad posibl mewn swyddi yn y sectorau amaethyddol a bwydydd lled-brosesedig yn y tymor hir".

Yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw, gofynnodd AS Ceredigion i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, Anne-Marie Trevelyan AS, egluro sut y bydd ffermwyr Ceredigion yn elwa o'r cytundeb, o gofio bod dadansoddiad y llywodraeth ei hun yn dangos y gallai'r cytundeb gweld toriad mewn swyddi o fewn amaethyddiaeth.  Ymatebodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod y cytundeb yn rhoi cyfle i ffermwyr "estyn allan a rhannu eu cynnyrch yn ehangach".

Dywedodd Mr Lake hefyd ei fod yn rhannu pryderon ffermwyr am effaith gronnol cytundebau masnach y DU, gan rybuddio bod "cynsail" wedi'i osod bellach i wledydd ffermio mawr fel yr Unol Daleithiau a Brasil gael mynediad dilyffethair i farchnadoedd y DU.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Ben Lake AS:

"Dywed Llywodraeth y DU na fydd ei cytundeb masnach yn tanseilio ffermwyr Cymru. Ac eto, mae eu hasesiad nhw eu hunain yn dangos y byddai'r cytundeb hwn yn gweld torri swyddi o fewn amaethyddiaeth ac yn cynhyrchu dim twf ychwanegol. Mae hyn yn arbennig o bryderus o ystyried pa mor bwysig yw'r sector ffermio i gymunedau gwledig ledled Cymru. 

"Rydym yn rhannu pryderon undebau ffermio Cymru nid yn unig am gytundeb Seland Newydd ond hefyd am effaith gronnol cytundebau masnach Llywodraeth y DU. Ynghyd â Chytundeb Masnach Awstralia, mae cynsail bellach wedi'i gosod ar gyfer mynediad dilyffethair ar gyfer cynnyrch amaethyddol.  Bydd ffermwyr mewn gwledydd ffermio mawr ledled y byd, o'r Unol Daleithiau i Frasil, yn awr yn disgwyl yr un peth.

"Bydd geiriau cysurlon ddim yn ddigon. Mae ffermwyr Cymru yn haeddu esboniad ar sut y bydd eu bywoliaeth yn cael ei ddiogelu yng ngoleuni'r cytundebau masnach hyn."

 


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-11-05 16:25:05 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.