Mae Elin Jones wedi croesawi’r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio’r cynllun i ail-agor y rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin i’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru newydd (NICW).
Cytunwyd i sefydlu’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru mewn cytundeb Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r astudiaeth ddichonoldeb lawn i mewn i ail-agor y llinell reilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates AC, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru'r wythnos hon y byddai’n galw ar NICW, y corff a fydd yn gyfrifol am gyllido a gweithredu prosiectau seilwaith y sector cyhoeddus yng Nghymru, i ystyried canlyniadau'r astudiaeth ddichonoldeb er mwyn ei hymgorffori mewn cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn y dyfodol. Ymhelaethodd Mr Skates ar y gwaith dichonoldeb sydd i’w wneud hefyd.
Dywedodd Elin Jones:
"Mae hwn yn gam pwysig arall yn natblygiad llinell y rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin, ac rwy'n falch y bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei ariannu fel rhan o'r cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Mae'r camau a nodir gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn dangos ei fod yn cael ei gymryd o ddifrif gan Lywodraeth Cymru."