Roedd y datganiad ddoe y byddai gweithwyr NHS yn Lloegr yn derbyn codiad cyflog o 6.5%, ar gyfartaledd, yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae'n bwysig bod gweithwyr NHS yng Nghymru, ar ôl blynyddoedd o gyflog sydd wedi aros yn yr unfan, hefyd yn derbyn codiad cyflog am y gwaith hollbwysig mae nhw'n ei wneud.
Gofynnodd Ben Lake AS i Ysgrifennydd Iechyd y DG gadarnhau bod y ddêl gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth San Steffan ddoe yn golygu y bydd cyllid ychwanegol, neu gyfran deg o gyllid Barnett, yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru, fel eu bod nhw hefyd yn medru rhoi codiad cyflog haeddiannol a hir-ddisgwyliedig i staff yr NHS yng Nghymru.