'Clwb Ni' yn dod i'r Senedd
Mae prosiect arloesol 'Clwb Ni' wedi ymweld â'r Cynulliad Cenedlaethol. Meddai Elin Jones "Roeddwn yn hynod falch o groesawu'r prosiect hwn, lle mae plant a'r henoed gyda'i gilydd i rannu profiadau, i'r Senedd". Mae prosiect 'Clwb Ni' yn bartneriaeth rhwng Tai Ceredigion ac Ysgol Plascrug.
Elin yn codi'r ymgyrch yn erbyn cau Swyddfa Bost Aberystwyth gyda'r Prif Weinidog
Mae Elin Jones wedi trafod yr ymgyrch yn erbyn symud Swyddfa Bost Aberystwyth o'i leoliad presennol ar y Stryd Fawr yn sesiynau cwestiynau'r Prif Weinidog yn y cynulliad yr wythnos hon. Cliciwch isod i weld beth oedd ei ymateb:
https://www.youtube.com/watch?v=YqYHzgXab0c
Elin Jones yn amlygu ffigurau newydd ar ganslo triniaethau NHS
Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu y cafodd 174,996 o driniaethau eu canslo mewn ysbytai yng Nghymru yn ystod 2013-14, 2014-15, a chwe mis cynta 2015-16. Mae hyn yn gyfartaledd o 1,346 triniaeth yn cael eu canslo bob wythnos.
Mae'r broblem yn pwysleisio'r angen am fesurau i gynyddu'r nifer o nyrsys a meddygon sy'n cael eu recriwtio, fel y rhai a gyhoeddwyd gan Elin Jones.
Pryder am Swyddfa Ddidoli Tregaron
Mae Elin Jones wedi galw am drafodaethau ynglŷn â dyfodol swyddfa ddidoli y Post Brenhinol yn Nhregaron.
Mae’r Swyddfa Bost yn y dref i fod i symud o’i leoliad presennol i’r siop Spar, sydd ar y sgwâr. Fodd bynnag, mae cangen y Swyddfa Bost presennol hefyd yn gartref i swyddfa ddidoli ac yn fan codi parseli, ac nid oes unrhyw wybodaeth wedi dod i law ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei effeithio gan y newid.
Rhaid Sicrhau Trenau Drwodd ar Linell y Cambrian
Mae AC Plaid Cymru dros Geredigion wedi rhybuddio bod angen i fasnachfraint rheilffyrdd Cymru barhau i weithredu gwasanaethau trawsffiniol yn y dyfodol.
Elin yn galw am welliannau i' r gwasanaeth ambiwlans
Mae Elin Jones yn ymgyrchu dros welliannau i wasanaeth ambiwlans Ceredigion, sydd ar hyn o bryd ymhlith yr isaf o ran amseroedd ymateb. Yn ol yr AC lleol, mae angen cyflwyno system sy'n atal ambiwlansys lleol rhag cael eu llusgo'n ormodol o'n hardal i ddelio a galwadau mewn llefydd eraill.
Pryder yn Aberteifi wrth i swyddfa'r Tivyside gau
Mae pryder yn Aberteifi yn sgil cyhoeddiad gan Grwp Newsquest fod swyddfa papur newydd y TivySide yn y dre yn cau ar 19 Chwefror. Bydd y papur yn cael ei ysgrifennu o swyddfa’r grwp yn Hwlffordd.
Elin yn croesawu tro-pedol ar addysg uwch
Mae Elin Jones, AC lleol Ceredigion, wedi croesawu’r newyddion fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi penderfynu bod y toriadau arfaethedig werth £41 miliwn i ariannu addysg uwch wedi cael eu gostwng i £10 miliwn. Daeth y newyddion wedi’r ddadl dros y gyllideb yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 9fed o Chwefror, ar ôl i Elin Jones gynnig gwelliannau gan alw ar y Llywodraeth i ailystyried y toriadau enfawr i brifysgolion.
Elin Jones yn croesawu cyllido bws y Cardi Bach
Mae Elin Jones wedi rhoi croeso cynnes i'r cyhoeddiad gan Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru y bydd y gefnogaeth ariannol i wasanaeth bws y Cardi Bach yn parhau am flwyddyn arall.
Elin Jones yn galw ar gymunedau Ceredigion i wneud y mwya o gyllid y Loteri Fawr
Mae Elin Jones, AC Ceredigion, wedi croesawu'r ffaith fod gan y Gronfa Loteri Fawr £30 miliwn ar gael i helpu cymunedau yng Nghymru gyda phrosiectau, gan gynnwys cynllun i warchod amgylchedd naturiol, a chronfa i helpu lleddfu tlodi gwledig.