AS Ceredigion yn enillydd yng Ngwobrau AS y Flwyddyn
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Ben Lake, wedi dweud ei fod yn ei theimlo’n “anrhydedd” derbyn gwobr Overall People’s Choice Newcomer MP of the Year a gyflwynwyd gan y Patchwork Foundation.
Mae’r wobr, sy’n cael ei dyfarnu yn dilyn pleidlais gyhoeddus, yn cael ei threfnu gan y Patchwork Foundation fel rhan o Wobrau AS y Flwyddyn. Elusen amhleidiol yw’r Patchwork Foundation sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo ac annog integreiddio cymunedau difreintiedig a lleiafrifol mewn modd positif yn rhan o ddemocratiaeth a chymdeithas sifil.
Cynyddodd Mr Lake ei fwyafrif wrth ad-ennill sedd Ceredigion yn Etholiad Cyffredinol 2019 ar ôl dechrau yn y Senedd yn 2017.
Mr Lake yw'r AS ieuengaf i gynrychioli etholaeth yng Nghymru. Mae'n aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig, yn ogystal â gweithredu fel llefarydd ar ran Plaid Cymru ar nifer o bortffolios gan gynnwys y Trysorlys, Iechyd a'r Amgylchedd a Materion Gwledig.
Fel rhan o'i enwebiad mae ei waith gyda’r achosion canlynol wedi’u hamlygu - cefnogi pobl anabl, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a dod â chymunedau ynghyd - gan gynnwys cynnal gweithdy 'Amser i Siarad' oedd wedi'i anelu at ferched ifanc, a chefnogi ymgyrch llawr gwlad WASPI (Menywod yn Erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth) yng Ngheredigion.
Yn dilyn etholiad 2019 tynnodd y BBC sylw at Mr Lake fel un o’r Ten lesser-known MPs to keep an eye on.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae derbyn y Wobr hon ar gyfer Dewis y Bobl yn fraint ac yn anrhydedd, ond mae llawer i’w wneud o hyd i sicrhau bod pryderon pob cymuned yn cael eu lleisio yn y Senedd.
“I ormod o bobl, gall gwleidyddiaeth yn San Steffan ymddangos yn bell - ac yn aml wedi ei datgysylltu - oddi wrth y materion sy’n eu poeni fwyaf. Rwy’n ei ystyried felly yn ddyletswydd arnaf i ymgysylltu â gwahanol grwpiau oedran a chymunedau i wneud y broses wleidyddol yn fwy hygyrch ac ystyrlon i'w bywydau beunyddiol.
"Mae'n fraint gwasanaethu cymunedau Ceredigion, a'r anrhydedd fwyaf oll yw gallu gweithio ar eu rhan i sicrhau bod eu buddiannau'n cael eu cynrychioli yn y Senedd."