Mae Ben Lake AS wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i bob busnes y mae cyfyngiadau clo lleol yn effeithio arnynt.
Cyhoeddodd Canghellor y DU ddydd Gwener y bydd busnesau sy'n gorfod cau oherwydd cyfyngiadau newydd yn gymwys i dderbyn grantiau i dalu hyd at 67% o gyflog ei gweithwyr, ond yr unig fusnesau sy'n gymwys i hawlio'r grant fydd y rhai sy'n uniongyrchol o dan gyfyngiadau clo.
Yn ystod Datganiad y Trysorlys yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf, gofynnodd Ben Lake AS i'r Gweinidog “pa ystyriaethau sydd wedi'u rhoi i effaith cloeon lleol ar fusnesau a chadwyni cyflenwi sydd wedi'u lleoli y tu hwnt i'r ardaloedd sydd wedi'u cyfyngu?" a "pha gymorth fydd ar gael i fusnesau sy'n cael eu heffeithio yn sylweddol gan gyfyngiadau a osodir mewn mannau eraill?".
Dywedodd Ben Lake AS:
"Nid yw'r effaith ar fusnes wedi'i gyfyngu i'r ardaloedd hynny y mae'r firws yn effeithio arnynt fwyaf; mae effaith dadleoli ehangach ar fusnesau. Yr wyf wedi cyfarfod â llawer o berchnogion busnes yng Ngheredigion yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn enwedig yn y sector lletygarwch, sydd eisoes yn gallu gweld effaith y cloeon lleol ar eu masnach."
Ian Kimber yw perchennog a rheolwr Bragdy Mantle, bragdy meicro yn Aberteifi. Dywedodd Mr Kimber:
"Mae'n amlwg iawn y bydd y gaeaf hwn yn anodd iawn i'r tafarndai a'r bwytai gan nad yw eistedd yn yr awyr agored bellach yn opsiwn i'r rhan fwyaf o leoliadau. Mae'r gwahaniaeth mewn masnach yn ystod y bythefnos ddiwethaf eisoes yn dangos rhagolygon digalon ar gyfer ein gwerthiannau casgen wrth i ni fwrw ymlaen drwy'r gaeaf.
"Rwy'n pryderu, wrth i bethau fynd rhagddynt ac o bosibl waethygu, ein bod ni mewn lle llwyd fel bragdy. Nid ydym yn fusnes lletygarwch ac mae'n annhebygol y byddem yn cael ein gorfodi i gau ein drysau, ond mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhan fwyaf o'n masnach â lletygarwch. Os bydd mesurau mwy eithafol yn cael eu rhoi ar waith i gyfyngu ar ledaeniad coronafeirws yn y dyfodol, ac os yw'r diwydiant lletygarwch yn cael ei gyfyngu ymhellach, mae siawns y gallai busnesau fel ein rhai ni gael eu hepgor o unrhyw becynnau cymorth sy'n cael eu cynnig."
Ychwanegodd Mr Lake:
"Er bod y mesurau cymorth diweddaraf yn gwneud rhywfaint i gyfyngu'r niwed i fusnesau, mae llawer o sectorau, gan gynnwys y sector celfyddydau a digwyddiadau, a'r busnesau hynny yn y gadwyn cyflenwi lletygarwch, yn dal i fod mewn sefyllfa ansicr iawn, yn enwedig o ran cyfyngiadau ychwanegol sy'n cael eu hystyried yn awr."
"Rhaid i Lywodraeth y DU wneud popeth i ddiogelu bywoliaeth. Rhaid i hyn gynnwys codi cap benthyca Llywodraeth Cymru fel y gallwn roi mwy o gymorth i fusnesau ac awdurdodau lleol Cymru i helpu ein cymunedau drwy'r cyfnod anodd hwn."