Angen cefnogaeth frys ar y rhai sydd heb dderbyn cymorth drwy'r Cynllun Cadw Swyddi

2.png

Mae Gweinidog Economi yr Wrthblaid yn Senedd Cymru, Helen Mary Jones AS Plaid Cymru a Ben Lake AS, llefarydd Economi Plaid Cymru’n yn San Steffan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i’r adwy i helpu’r rhai sy’n anghymwys ar gyfer Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU.

Ar 12 Mai cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak estyniad i’r Cynllun Cadw Swyddi mor gynnar ag yfory - ond bydd Llywodraeth y DU ond yn talu 60% o gyflog gweithiwr yn hytrach nag 80%.

Mae Gweinidog Economi Cymru Ken Skates wedi nodi bod 74% o fusnesau Cymru yn rhan o’r Cynllun Cadw Swyddi - y ganran uchaf o bedair gwlad y DU.

Fodd bynnag, mae miliynau o bobl yn anghymwys i gael y gefnogaeth ac nid ydynt chwaith yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol - gan eu gadael heb unrhyw incwm.  Dangosodd arolwg diweddar a gynhaliwyd gan y New Starter Furlough Campaign nad oedd 83% o’r rhai a ymatebodd wedi gallu derbyn unrhyw gymorth trwy Gredyd Cynhwysol.

Dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid ar yr Economi, Helen Mary Jones MS Plaid Cymru, fod y sefyllfa’n “anobeithiol ac yn anghynaladwy” a rhybuddiodd Lywodraeth y DU i beidio â chau llygaid a galwodd arnyn nhw i ddarparu “cefnogaeth hanfodol” i’r rhai oedd wedi syrthio rhwng dwy gadair. Dywedodd Ms Jones pe na allai Llywodraeth y DU gyflawni hyn yna dylai Llywodraeth Cymru “ddod i’r adwy a darparu datrysiad Cymreig” i’r broblem.

Dywedodd Llefarydd Economi Plaid Cymru yn San Steffan Ben Lake AS:

“Mae miloedd o aelwydydd Cymru yn dioddef oherwydd y gwendidau yng Nghynllun Cadw Swyddi Coronafeirws Llywodraeth y DU a hefyd yn methu â hawlio Credyd Cynhwysol. 

“Mae'r bobl hyn, sy’n ddi-fai, yn beryglus o agos at fethu talu eu rhent neu dalu morgais. Mae'r sefyllfa'n anobeithiol ac yn anghynaladwy. Ni all hyn barhau. 

“Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu nawr i ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r bobl hyn sydd wedi cwympo rhwng dwy gadair. Byddai anwybyddu hyn yn galon galed.

“Ond os ydyn nhw'n methu, rhaid i Lywodraeth Cymru ddod i’r adwy a darparu datrysiad Cymreig i'r broblem hon. Dangoswch y byddwch chi'n sefyll dros Gymru a rhowch iddynt y gobaith a'r gefnogaeth y maent eu hangen ac yn eu haeddu.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.