Mae Ben Lake AS Ceredigion wedi dangos ei gefnogaeth i fuddsoddiad mewn ymchwil i Sglerosis Ymledol (MS), ar ôl ymweld ag arddangosfa gan yr MS Society yn y Senedd yr wythnos hon.
Roedd yr arddangosfa, ‘Multiple Sclerosis – The Research Story’, yn rhoi cyfle i seneddwyr glywed gan bobl sy'n byw gydag MS ynghyd ag ymchwilwyr MS blaenllaw ledled y DU. Roedd yn cynnwys gwrthrychau personol gan y gymuned MS, oedd yn cynrychioli sut beth yw byw gyda'r cyflwr, ochr yn ochr â'r datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil arloesol.
Dywedodd Ben Lake, AS: “Mae'n bleser gennyf fod wedi mynychu arddangosfa seneddol yr MS Society a chael gweld dros fy hunan pa mor agos yr ydym at atal MS”
“Mae MS yn gyflwr anrhagweladwy a heriol, a all fod yn boenus a blinderus. Rwyf am weld buddsoddiad yn y maes ymchwil hwn yn parhau i gynyddu fel bod pawb sy'n byw gydag MS yng Ngheredigion a ledled y DU yn gallu cael gafael ar driniaethau effeithiol. ”
Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae ymchwil MS wedi arwain at ddatblygiadau mawr, gan gynnwys mwy na dwsin o driniaethau trwyddedig i bobl sydd â ffurf ailwaelu o MS. Ond mae angen mwy o fuddsoddiad er mwyn dod o hyd i fwy o driniaethau, a rhai gwell, i bawb - gan gynnwys rhai sy'n gallu arafu neu atal MS rhag gwaethygu.
Dywedodd Dr Susan Kohlhaas, Cyfarwyddwr Ymchwil i’r MS Society: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Ben Lake AS am addo eu cefnogaeth i'n gwaith. Mae mwy na 100,000 o bobl yn byw gydag MS yn y DU ac mae llawer yn dal i gael eu gadael heb opsiynau ar gyfer triniaeth sy'n arafu neu'n atal cynnydd. Ond rydym ar drobwynt mewn ymchwil i MS ac mae'r DU ar flaen y gad yn hyn o beth. Rydym yn agosach nag erioed o'r blaen at gael triniaethau ar gyfer pawb sydd ag MS, ac i atal MS am byth. ”
Yr MS Society yw prif noddwr ymchwil dielw MS yn y DU ac ar hyn o bryd mae'n cefnogi dros 70 o brosiectau gweithredol gwerth mwy na £20 miliwn. I gael gwybod mwy am yr MS Society a'r ymchwil hanfodol mae'n ei ariannu, ewch i www.mssociety.org.uk