Mae Ben Lake AS Ceredigion, wedi cyflwyno Cynnig Cynnar-yn-y-dydd yn San Steffan yn cymeradwyo cannoedd o wirfoddolwyr ar draws Ceredigion am ymateb mor bositif i bandemig y Covid-19.
Mae cannoedd o wirfoddolwyr ledled Ceredigion wedi bod yn cefnogi eu cymunedau lleol yn ystod y Covid-19. Mae trigolion lleol wedi sefydlu degau o rwydweithiau cefnogi lleol yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn cynnal trigolion drwy ddosbarthu nwyddau hanfodol, casglu presgripsiynau, cerdded cŵn a chynnal sgyrsiau ffôn gyda'r rhai mwyaf bregus.
Mae busnesau a sefydliadau lleol wedi bod yn cefnogi’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r feirws, drwy gynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol a hylif diheintio dwylo i weithwyr rheng flaen yng Ngheredigion. Mae staff Ysgol Bro Pedr, Ysgol Penglais, Ysgol Bro Teifi, Ysgol Henry Richard ac Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi cynhyrchu miloedd o sgriniau wyneb drwy ddefnyddio’u peiriannau laser. Mae staff Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Milfeddygaeth Cymru wedi cynhyrchu a rhoi Cyfarpar Diogelu Personol i staff mewn canolfannau iechyd gofal lleol, a distyllfa jin lleol, In The Welsh Wind wedi bod yn cynhyrchu hylif diheintio ar gyfer cymunedau ar draws gorllewin Cymru.
Dywedodd Ben Lake AS cyflwynydd y cynnig:
“Mae’n wir i ddweud ein bod yn gweld pobl ar eu gorau mewn adeg o argyfwng, ac mae hynny’n sicr yn wir am bobl Ceredigion. Rwy’n llawn edmygedd i ymroddiad y gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino i estyn cymorth i helpu pobl sy’n wynebu anawsterau a heriau yn ystod y cyfnod heriol hwn.
“Bydd pob gweithred o haelioni unigol, o’r rhwydweithiau gwirfoddoli lleol i’r busnesau sy’n cynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol a hylif diheintio dwylo, yn helpu ein cymunedau lleol drwy’r cyfnod anodd hwn.”
Dywedodd Jackie Sayce, cydlynydd grŵp gwirfoddoli lleol yn ardal Waunfawr:
“Wrth i grwpiau cymunedol ddatblygu’n organig ar draws Ceredigion, mae gwirfoddolwyr heb unrhyw brofiad blaenorol o helpu yn eu cymunedau lleol wedi camu i’r adwy. O gynnig help gyda siopa bwyd, casglu meddyginiaeth a ffonio cymdogion, mae pawb wedi chwarae eu rhan. Mae'r tasgau symlaf yn gwneud gwahaniaeth mawr. Fel person sydd wedi cydlynu cymorth yn lleol, rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth gan ein AS lleol. Pan edrychwn yn ôl ar argyfwng Covid-19 byddwn yn gallu dal ein pennau'n uchel a dweud 'gyda'n gilydd fe wnaethon ni wneud gwahaniaeth’.”
Dywedodd Hazel Lloyd Lubran, Prif Weithredwr CAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion):
"Mae Tîm CAVO wedi cael ein syfrdanu gan gynigion caredig pobl i helpu eraill ac mae wedi bod yn fraint llwyr cefnogi gwaith hanfodol trefnwyr lleol a grwpiau Trydydd Sector ledled y sir - mae'n adlewyrchu'r ymdeimlad anhygoel o gymuned sydd gennym yng Ngheredigion."
Gellir gweld y cynnig yma: https://edm.parliament.uk/early-day-motion/56859/local-volunteering-efforts-in-ceredigion