Mae Gwobrau AS y Flwyddyn yn dathlu gwaith ASau o bob rhan o'r Deyrnas Gyfunol sy'n mynd ati i weithio gyda chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a chymunedau difreintiedig. Bydd y gwobrau’n cael eu cynnal ym mis Rhagfyr yn Nhŷ'r Llefarydd yn San Steffan, ac maent yn cael eu trefnu gan y Patchwork Foundation.
Mae'r gwaith y mae Ben Lake wedi'i enwebu ar ei gyfer yn cynnwys tri maes: cefnogi pobl anabl; mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a dod â chymunedau ynghyd, gan gynnwys cynnal gweithdy ‘Amser i Siarad' wedi’i anelu at ferched ifanc a chefnogi ymgyrch llawr gwlad WASPI (Menywod yn Erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth) yng Ngheredigion.
Dywedodd Mr Lake: “Dwi mewn sioc fy mod wedi fy enwebu ar gyfer y wobr hon, ond yn arbennig felly o ystyried bod yr enwebiad wedi'i gyflwyno gan bobl o Geredigion.
“Rwy’n ddiolchgar tu hwnt am yr enwebiad, ond mae llawer i’w wneud eto er mwyn sicrhau bod pryderon pob cymuned yn cael eu lleisio yn y Senedd. I lawer o bobl mae gwleidyddiaeth yn San Steffan yn ymddangos yn bell, ac yn aml wedi'i ddatgysylltu o'r materion sy'n eu poeni fwyaf, ac felly rwy'n ei hystyried yn ddyletswydd arnaf i ymgysylltu â gwahanol grwpiau oedran a chymunedau i wneud y broses wleidyddol yn fwy hygyrch ac ystyrlon i'w bywydau bob dydd."
Sefydlodd y Patchwork Foundation y gwobrau hyn er mwyn hyrwyddo ac amlygu arfer gorau ASau ledled y Deyrnas Gyfunol sy'n gweithio'n agos gyda chymunedau amrywiol. Enwebir yr ASau gan y cyhoedd neu sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad a'u dewis gan banel annibynnol o feirniaid.