Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn trafod cynnig ar 12 Mehefin yn ystod cyfarfod lawn y Cyngor. Mae’r cynnig yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sicrhau bod trigolion Ceredigion a chanolbarth Cymru yn derbyn yr un safon o wasanaeth strôc â phobl mewn ardaloedd eraill o fewn dalgylch y Bwrdd.
Mae’r cynnig, a gyflwynir gan y Cynghorydd Alun Williams ac eiliwyd gan y Cynghorydd Eryl Evans, yn ymateb i ymgynghoriad diweddar y Bwrdd Iechyd ar fodel “trin a throsglwyddo”, a fyddai’n gweld gwasanaethau strôc yn cael eu symud bron 70 milltir i ffwrdd o Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.
Byddai’r newid hwn yn arwain at leihad sylweddol yn y ddarpariaeth leol, gan orfodi cleifion a’u teuluoedd i deithio’n bell—hyd at bedair awr ar gludiant cyhoeddus—i gael gofal hanfodol neu i ymweld ag anwyliaid.
Mae’r cynnig yn tynnu sylw at berfformiad cryf yr ysbyty, gan nodi bod Bronglais ar hyn o bryd yn dal gradd B o dan y Rhaglen Archwilio Genedlaethol Strôc (SSNAP)—sef dangosydd clir o ofal o ansawdd uchel.
Mae’r cynnig hefyd yn mynegi cefnogaeth i’r grŵp ymgyrchu lleol Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais, sy’n gweithio i ddiogelu dyfodol yr ysbyty ac sydd wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus ar Nos Wener 20 Mehefin yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth er mwyn trafod effaith y cynlluniau arfaethedig.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams:
“Efallai bod Bronglais ar gyrion daearyddol ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ond mae’n ganolog i fywydau pobl ledled Ceredigion, Powys a Meirionnydd. Rhaid inni gymryd golwg hynod feirniadol ar unrhyw gynigion sy’n bygwth mynediad lleol at ofal iechyd hanfodol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Eryl Evans:
“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth eisoes yn heriol. Bydd symud gwasanaethau strôc i Lanelli ond yn gwaethygu’r anghydraddoldebau iechyd yng nghefn gwlad Cymru. Mae siwrne o Aberystwyth i Lanelli yn cymryd tua 2 awr mewn car neu’n agos at 4 awr ar gludiant cyhoeddus. Allwn ni ddim disgwyl i deuluoedd teithio mor bell yn ddyddiol er mwyn ymweld â’u hanwyliaid. Mae’r cyswllt cyson gyda theulu yn gallu fod yn hynod o bwysig i gleifion strôc ond gyda’r cynlluniau arfaethedig efallai fydd yn amhosibl i deuluoedd ymweld â’u hanwyliaid yn aml.”

Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb