Mae EE wedi lawnsio 3 lleoliad newydd sbon a fydd yn darparu gwell gwasanaeth ffôn symudol yng nghymunedau Cenarth, Capel Dewi a Phontsian. Hyd yn ddiweddar, roedd yna ddiffyg gwasanaeth ffôn symudol yn y pentrefi yma gyda phobl leol, busnesau a thwristiaid yn cwyno am gysylltedd gwael.
Fe wnaeth Ben Lake AS ymgymryd â’r dasg o gydweithio gyda’r cwmnïau ffôn symudol a’u hannog i edrych i mewn i’r broblem a buddsoddi mewn gwell gwasanaeth i’r ardal.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd EE bod tri mast wedi cael eu cynnau’n swyddogol sy’n golygu bod gan y tri phentref wasanaeth 4G dibynadwy am y tro cyntaf. Mae gwasanaeth EE 4G ar gael yn awr mewn mwy o lefydd yng Ngheredigion na’r gwasanaeth 2G a 3G. Er mwyn gwneud y gorau o’r rhwydwaith cynghorir etholwyr i ddefnyddio ffôn llaw a chynllun sy’n medru galw 4G.
Mae EE yn parhau i uwchraddio safleoedd sydd eisioes yn bodoli ar draws canolbarth Cymru ac wedi ymrwymo i ddarparu cynhwyster ychwanegol i gefnogi digwyddiadau pwysig.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae ansawdd gwasanaeth ffôn symudol yng Ngheredigion yn fater sy’n cael ei godi yn rheolaidd gyda mi, ac felly roeddwn yn ddiweddar yn falch o groesawu EE i Geredigion er mwyn trafod gwella cysylltedd yn y Gymru wledig.
“Bydd y tri mast 4G newydd yn rhoi gwell gwasanaeth ffôn yng nghymunedau gwledig Cenarth, Capel Dewi a Phontsian. Ers blynyddoedd mae etholwyr yn y pentrefi gwledig hyn wedi brwydro i dderbyn a gwneud galwadau, ac rwy’n gobeithio y bydd y mastiau newydd hyn yn golygu gwell a chyflymach cysylltedd.
“Mae’n galonogol i weld ychydig o ddatblygiad yn ystod y misoedd diwethaf yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth ffôn symudol a chyflymder band eang ar draws Ceredigon. Fodd bynnag, mae mwy o waith eto i’w wneud, ac felly fe wnaf barhau i weithio er mwyn sicrhau fod pob un rwy’n ein gynrychioli yn medru elwa o gysylltedd yr unfed ganrif ar hugain. Nid yw ein cymunedau yn haeddu llai na hyn.