Buddsoddiad Cynllun Twf Canolbarth Cymru ddim digon uchelgeisiol

Aberaeron.jpg

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cyhoeddi y bydd £55m o wariant Llywodraeth y DU ar gael ar gyfer prosiectau i roi hwb i rannau o ganolbarth Cymru.

Mae Cynllun Twf Canolbarth Cymru, a gyhoeddwyd yn ôl yn 2017, yn dal i fod yn y camau cynnar iawn. Mae'n addo cronni cyllid gan Lywodraethau Cymru a'r DU er mwyn denu buddsoddiad preifat i wneud cyfraniad sylweddol i economi Ceredigion a Phowys.

Y disgwyl yw y bydd y prosiectau a ddewisir, yn gyfnewid am yr arian gan Drysorlys y DU, yn rhoi hwb i'r economi leol o ran cynhyrchiant neu Werth Ychwanegol Gros.

Mae partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru eisoes wedi cynnal gweithdai gyda rhanddeiliaid o Geredigion a Phowys, gan gasglu syniadau ar gyfer y cynllun twf. Ynghyd â gwella’r isadeiledd digidol, mae rhai o'r syniadau wedi canolbwyntio ar ddatblygiadau newydd mewn ynni gwyrdd, technegau amaethyddol arloesol a’r diwydiant twristiaeth. Y nod yw creu swyddi safonol sy’n talu’n dda, fydd yn cadw pobl ifanc yn yr ardal yn ogystal â denu gweithwyr eraill.

Er bod y cyhoeddiad yn gam i'r cyfeiriad cywir, mae Plaid Cymru wedi dweud nad yw'r buddsoddiad arfaethedig yn ddigonol i wireddu nodau'r polisi, ac mae'n siomedig o'i gymharu â chynlluniau twf rhannau eraill o'r DU.

Mewn ymateb i ‘r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion:

“Ar ôl codi’r mater penodol hwn yn ystod Cwestiynau’r Trysorlys yn y siambr yn gynharach yr wythnos hon, roeddwn yn falch o gael eglurder pellach gan Lywodraeth y DU ar y cynnydd o ran Cynllun Twf Canolbarth Cymru.

“Mae’n deg dweud bod y buddsoddiad arfaethedig o £55m, wedi’i wasgaru dros gyfnod o 15 mlynedd, yn disgyn ymhell islaw’r uchelgais a amlinellwyd gan Lywodraeth y DU pan gyhoeddodd cynlluniau ar gyfer Cynllun Twf Canolbarth Cymru am y tro cyntaf.

“Yn wir, o gymharu â choridor yr A55 yn y gogledd, neu goridor yr M4 yn y de, mae Ceredigion a Phowys wedi dioddef o ddiffyg cysylltiadau trafnidiaeth ac isadeiledd digidol, ac o gofio bod y rhain yn elfennau allweddol mewn unrhyw economi lewyrchus, byddai rhywun yn disgwyl y byddai lefel y buddsoddiad ar gyfer Canolbarth Cymru yn uwch er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg hwn.

“Os mai pwrpas Cynllun Twf Canolbarth Cymru yw lleihau’r bwlch economaidd rhwng canolbarth Cymru a gweddill y wlad, yna rwy’n credu bod achos cryf dros fuddsoddi pellach. Felly, er fy mod yn croesawu unrhyw fuddsoddiad i Geredigion, byddaf yn parhau ddadlau yn Senedd San Steffan o blaid rhagor o fuddsoddiad er mwyn datgloi potensial canolbarth Cymru.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.