Mae rhoi mwy o gyllid ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl a ddarperir gan y Gwasanaeth Iechyd yn gam hanfodol y mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i’w gyflawni, yn ôl ymgeisydd Seneddol y blaid ar gyfer Ceredigion, Ben Lake.
Mae maniffesto’r blaid yn amlinellu cynlluniau i gynyddu gwariant iechyd meddwl 5% yn flynyddol am y deng mlynedd nesaf. Mae'r blaid hefyd wedi addo creu gwasanaeth Argyfwng Iechyd Meddwl Cymraeg 24 awr ar y cyd â'r gwasanaethau brys i helpu pobl mewn sefyllfaoedd argyfyngus.
Er bod darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn fater sydd wedi’i ddatganoli, mae Plaid Cymru yn dadlau bod penderfyniadau cyllido a wneir yn San Steffan gan y Ceidwadwyr yn effeithio'n uniongyrchol ar ba gyllid sydd ar gael i'w wario gan Lywodraeth Cymru.
Mae llawer o gleifion yn aml yn gorfod aros am gyfnodau hir cyn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl cymunedol, ac mae diffyg cwnselwyr a seiciatryddion yn yr ardal yn golygu bod cleifion wedi gorfod teithio pellteroedd sylweddol i gael mynediad at wasanaethau hanfodol.
Dywedodd ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru ar gyfer Ceredigion, Ben Lake:
“Mae angen mwy o gefnogaeth a buddsoddiad i helpu pobl sy’n wynebu heriau iechyd meddwl. Rwyf wedi gweld llawer o achosion Ngheredigion lle mae cleifion wedi gorfod teithio pellteroedd sylweddol i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac i dderbyn y gefnogaeth a'r arweiniad sydd eu hangen arnynt. Ar yr un pryd, mae’r gwasanaethau sydd ar gael i gleifion yn lleol dan straen aruthrol.
“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i sefydlu gwasanaeth Argyfwng Iechyd Meddwl 24/7 ar gyfer y rhai sydd mewn sefyllfa argyfyngus, gan weithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau brys. Rydym hefyd wedi ymrwymo i helpu i atal salwch meddwl trwy wella’r addysg a’r gefnogaeth yn ein ysgolion, a mynd i'r afael â'r stigma a'r gwahaniaethu a brofir gan gynifer.
“Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn gwella gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, gan gynnwys hyfforddi mwy o gwnselwyr fel bod dewisiadau amgen i feddyginiaeth ar gael ym mhob cymuned, lle bo hynny'n briodol.”