Mae elusen yng Ngheredigion sy'n rhoi cymorth hanfodol i oedolion a phobl ifanc ag anawsterau dysgu wedi cael grant o £1,500 i'w helpu i barhau â'i gwasanaethau yn ystod y pandemig.
Derbyniodd Mencap Ceredigion yr arian ar ôl i'w AS lleol, Ben Lake, ei henwebu am wobr ariannol o gronfa Western Power Distribution - 'In This Together – Community Matters Fund'.
Sefydlwyd y gronfa gan y dosbarthwr trydan lleol ar ddechrau'r clo i gefnogi sefydliadau llawr gwlad i ddarparu gofal i bobl a theuluoedd bregus. Yn wreiddiol, cefnogodd dros 300 o sefydliadau gyda £500,000 o gyllid. Wrth i'r cloi lacio, estynnodd WPD £250,000 o gymorth ychwanegol a chynigiodd gyfle i ASau gyflwyno grŵp cymunedol neu elusen am grant i helpu tuag at ei waith yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Dywedodd Ben Lake AS: "Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â Mencap Ceredigion ers nifer o flynyddoedd ac maen nhw'n elusen ysbrydoledig sy'n gwneud gwaith anhygoel yn lleol. Penderfynais eu henwebu ar gyfer derbyn cyllid o’r 'In This Together – Community Matters Fund gan Western Power Distribution am eu bod wedi parhau i weithio'n ddiflino yn ystod pandemig Covid-19, er gwaethaf wynebu llawer o heriau ar hyd y ffordd. Maent yn sefydliad gwych ac maent wedi rhoi llais cryf yn gyson i unigolion ag anableddau dysgu yng Ngheredigion. Rwy'n gobeithio y bydd y grant o £1,500 yn cyfrannu rywfaint at gefnogi gwasanaethau Mencap Ceredigion ar draws y sir."
Dywedodd Cadeirydd Mencap Ceredigion, Mr Alun Evans: "Mae'n anrhydedd i ni gael ein dewis i dderbyn y grant hwn gan Western Power ac yn falch iawn o gael ein henwebu gan ein AS Mr Ben Lake. Bu'n gefnogwr mawr i'n gwaith ac yn ffrind da i'n haelodau. Mae ein Cangen yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr sydd, er gwaethaf cau ein clybiau a'n gweithgareddau, wedi bod yn brysur yn cynnal digwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn cadw mewn cysylltiad ag aelodau, yn enwedig y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain a heb lawer o gefnogaeth. Mae’r swm sylweddol hwn i'w groesawu'n fawr ar adeg pan fo codi arian yn ein ffyrdd arferol yn amhosibl oherwydd y cyfyngiadau yn sgil y firws. Bydd yr arian yn mynd tuag at gylchlythyr ac argraffydd sydd ei angen yn fawr."
Dywedodd Alison Sleightholm, Cyfarwyddwr Adnoddau a Materion Allanol WPD: "Drwy gydol yr argyfwng hwn rydym wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi ein cymunedau lleol a sicrhau cyflenwad ynni i'n 7.9 miliwn o gwsmeriaid. Mae'r argyfwng ymhell o fod drosodd ac wrth i ni ddechrau ar gam nesaf ymateb y DU i'r pandemig, rydym wrth ein bodd bod 92 o ASau yn ein rhanbarthau wedi enwebu achosion haeddiannol i dderbyn hyd at £1,500 o gyllid.
"Rydym yn falch ein bod, hyd yma, wedi gallu rhoi arian i dros 450 o elusennau a grwpiau yn ein hardal. Drwy ymestyn ein cronfa a chyda chefnogaeth wych ein ASau, gallwn gefnogi hyd yn oed mwy o sefydliadau sy'n gwneud gwaith cymunedol gwerthfawr."