Cefndir
- Perchennog siop gyfleustra a phapur newydd lelol
- Aelod presennol o Gyngor Cymuned Llanllwchaearn
- Ymddiriedolwr presennol Cylch Meithrin Cei Newydd
Pam pleidleisio dros Matthew?
"Rwy’n 28 mlwydd oed a chefais fy ngeni a fy magu’n lleol ac rwyf nawr yn byw ac yn gweithio yn Cross Inn.
Rwy’n rhedeg siop gyfleustra a phapur newydd llwyddiannus yn y pentref ac wedi gwneud hynny ers saith mlynedd.
Rwy’n byw gyda fy mhartner Sammy a dau o blant bach. Mae fy mhlentyn pum mlwydd oed yn mynychu Ysgol Bro Siôn Cwilt ac fe fydd fy mhlentyn dwy flwydd oed yn mynychu Cylch Meithrin Cei Newydd flwyddyn nesaf.
Rwyf bob amser wedi byw a gweithio yn y ward etholiadol hon, ac rwy’n teimlo nawr fy mod i eisiau rhoi yn ôl i’r gymuned sydd wedi fy nghefnogi ar hyd fy oes. Rwy’n tiemlo’n gryf iawn ynglyn â beth sy’n digwydd a beth sydd angen digwydd ar garreg ein drws. Byddwn yn coresawu’r cyfle i fod yn llais i chi ar y Cyngor Sir."
Blaenoriaethau Matthew
-
Tai fforddiadwy
- Ymgyrchu dros dai fforddiadwy yn yr ardal a chymorth penodol i bobl ifanc lleol sydd am brynu eu cartref cyntaf
-
Y cychwyn gorau
- Hyrwyddo Datblygiad Blynyddoedd Cynnar a chefnogaeth i deuluoedd ifanc
-
Yr economi leol
- Codi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i fusnesau bach wrth iddynt adfer yn dilyn pandemig a'u cefnogi tuag at y dyfodol.
-
Yr Amgylchedd
- Ymgyrchu i wella seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydan er mwyn hyrwyddo dyfodol gwyrddach i’n cymuned.
-
Ein cymuned
- Annog cydweithio o fewn y gymuned ac mewn partneriaeth â’r Awdurdod Lleol i fynd i’r afael â materion o bryder lleol.
Manylion cyswllt: |
[email protected] |
07931 294547 |
Dangos 1 ymateb