Matt Adams: De Llandysul

Graphics_Cyhoeddi_Ymgeiswyr_(24).png

Cefndir

  • Mae Matt yn gweithio fel rheolwr yr elusen Calon Tysul - yr adnodd hamdden a llesiant mwyaf yn ardal Llandysul.
  • Mae wedi byw yn Llandysul ers 2016 gyda'i wraig a'i blant sydd rhwng 7 ac 11 oed ac mae wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. 
  • Mae'n hyfforddwr brwd gyda thimau plant pêl-droed / rygbi lleol.
  • Fe wnaeth Matt ddechrau'r ymateb lleol i'r pandemig drwy'r tudalen Facebook, 'HELP! Llandysul a'r ardal' a chydlynu criw o wirfoddolwyr.

Pam pleidleisio dros Matt?

"Wrth wynebu Cofid yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydyn ni gyd wedi sylweddoli pa mor bwysig yw’r ardal leol, ein cymuned a’i chryfder. Gyda phwyslais o’r newydd ar helpu ein gilydd, siopa’n lleol a gwerthfawrogi ein hardal leol, rydw i eisiau cynnal a datblygu’r momentwm hwn gyda’ch help chi er mwyn sicrhau'r adnoddau a’r gwasanaethau gorau i Landysul a Chapel Dewi. 

Rydw i’n berson ‘llawr gwlad’ onest a theg ac yn awyddus i weithio’n ddiwyd dros ein hardal o fewn y Cyngor ac yn y Gymuned.

Gyda digon o egni a brwdfrydedd, mae modd datrys yr anawsterau anoddaf. Braint ac anrhydedd byddai’r cyfle i’ch cynrychioli fel Cynghorydd."

Blaenoriaethau Matt

  • Ymgyrchu i sicrhau tai a chartrefi fforddiadwy yn yr ardal, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc.

  • Rydw i’n angerddol dros wella cludiant cyhoeddus a chyfleoedd diogel i seiclo a cherdded yng nghefn gwlad.

  • Rwy’n angerddol dros wella’r amgylchedd.  Byddaf yn annog ffyrdd carbon isel o deithio, e.e. ceir / beiciau trydan llog ac annog sefydliadau i leihau gwastraff a dibyniaeth ar danwyddau ffosil.

  • Gwella a bywiogi cyfleoedd i fusnesau meicro annibynnol a mudiadau i ddefnyddio cyfleusterau gwag sydd yn yr ardal.

  • Byddaf y cefnogi pob ymdrech i amddiffyn ein cyfleusterau ym mhentref Llandysul a’r ardal lleol.

  • Rwyf wedi llwyddo dod yn rhugl yn y Gymraeg ac wedi dod yn diwtor Cymraeg i Oedolion.  Mae'r iaith yn drysor pwysig dros ben i ni gyd, yn enwedig yn yr ardal hon.  Byddaf yn gweithio i wella hawliau i ddefnyddio’r iaith dydd i ddydd a chyfleoedd i ddysgwyr. 

 

Manylion cyswllt
[email protected]
07966 235450
@mattllandysul

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-02-10 02:45:13 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.