Elin Jones yn croesawu rheolau cynllunio newydd ar gyfer gwella signal ffôn symudol

Phone_mast_Blaenplwyf_2.png

Ers 1 Ebrill, mae rheolau cynllunio yn ymwneud â maint mastiau ffonau symudol yng Nghymru yn cael eu llacio er mwyn gwella signal ffonau symudol. Bellach ni fydd rhaid i fastiau hyd at 25m fynd trwy’r broses o gael cais cynllunio llawn, yn gyffelyb i’r system sydd wedi bodoli yn Lloegr a’r Alban ers 2016.

Mae Elin Jones AC, sydd wedi ymgyrchu’n hir dros wella signal ffôn ar draws Ceredigion wedi croesawu’r datblygiad, gan ddweud:

“Mae etholwyr wedi cwyno am ddiffyg signal ffôn ers blynyddoedd lawer. Mewn ardal wledig gyda bryniau a mynyddoedd fel Ceredigion, rydym yn deall mai mastiau ffôn uwch yw’r unig ffordd i ddatrys problem diffyg signal.

“Bydd y rheoliadau newydd hyn yn caniatáu mastiau ffôn fydd yn cyrraedd yn uwch ac yn ei gwneud yn haws i gwmnïau i ddarparu signal ffôn i ardal ehangach.

“Yn ogystal â hyn, rwy’n gobeithio bydd dyfodiad y rheoliadau newydd hyn yn arwain y ffordd i gwmnïau bychain i gael mynediad at fastiau ffôn ar gyfer defnydd band eang. Bellach mae nifer o gwmnïau yn medru darparu signal band llydan sy’n medru cael ei ddarlledu o fastiau ffôn, ac rwy’n annog Llywodraeth Prydain a Chymru i gydweithio er mwyn gwneud hyn yn fwy hygyrch a chaniatáu Ceredigion i gael gwell cysylltedd digidol.”

 

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.