Cefndir
- Mae Mark yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn byw yn y ward gyda'i deulu.
- Mae hefyd wedi bod yn gynghorydd Tref Aberystwyth ers 2012 ac mae'n weithgar mewn llawer o ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol ac yn cymryd rhan mewn sesiynau codi sbwriel en lleol ac ymdrechion gwirfoddol eraill i wella'r dref.
Pam pleidleisio dros Mark?
“Fel y gwyddoch efallai, rydw i wedi bod yn gynghorydd sir ar gyfer Gogledd Aberystwyth ers 2012.
Ar gyfer yr etholiad hwn bydd tair ardal cyngor sir, sef Bronglais, Gogledd a Chanol yn cael eu huno i ffurfio un ward gyda dau gynrychiolydd, sef Aberystwyth Morfa a Glais. Rwy’n un o ddau ymgeisydd fydd yn sefyll yn enw Plaid Cymru, ochr yn ochr ag Alun Williams.
Fel rhywun sy’n angerddol dros Aberystwyth, rwy’n awyddus iawn i barhau i weithio ar ran y trigolion lleol fel un o gynrychiolwyr y ward newydd.
Cysylltwch ar e-bost os hoffech drafod unrhyw fater a gobeithio y byddwch yn gallu pleidleisio dros Alun a minnau fel eich ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr etholiad hwn. Bydd gennych ddwy bleidlais."
Blaenoriaethau Mark
Mae Mark yn eiriolwr cryf dros ddyfodol Aberystwyth ac yn awyddus i barhau i weithio ar wella’r promenâd, cefnogi masnachwyr bach canol y dref a gwella amgylchedd a diwylliant y dref.
Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio’n llwyddiannus i:
- Leihau cyflymder is a diogelwch ffyrdd i drigolion lleol
- Sicrhau llwybrau newydd a gwella'r llwybrau presennol ar gyfer cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Wella mannau gwyrdd y dref fel Parc Natur Penglais ac yn Heol y Gogledd.
- Barhau i gynnal a chadw a gwella'r promenâd ar ei hyd o Craig Glais i'r harbwr.
Mae Mark wedi gweithio gyda thrigolion lleol i fynd i'r afael â materion unigol, lle mae pobl wedi bod angen cymorth. Mae hefyd wedi gweithio'n galed i wella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i Aberystwyth, boed hynny'n deithiau bws neu drên, ac mae am barhau i wella amlder ac ansawdd gwasanaethau.
Mae Mark yn awyddus i sicrhau bod y dref a’r Brifysgol yn elwa o’i gilydd ac mae’n cefnogi buddsoddiad parhaus gan y Brifysgol yn ei chyfleusterau yn y dref er budd myfyrwyr a’r boblogaeth leol.
Manylion cyswllt: |
[email protected] |
Dangos 1 ymateb