Maldwyn Lewis: Gogledd Llandysul a Throed-yr-aur

Graphics_Cyhoeddi_Ymgeiswyr_(26).png

Cefndir

  • Wedi'i eni a’i fagu yn y sir
  • Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Coed-y-Bryn ac Ysgol Uwchradd Llandysul
  • Wedi gweithio mewn tri busnes lleol ers gadael yr Ysgol
  • Yn berchen ac yn rhedeg busnes Ymgymerwyr Angladdau
  • Yn briod a’r Parchedig Carys Ann
  • Aelod o Cyngor Cymuned Troed-yr-aur

Pam pleidleisio dros Maldwyn?

"Wrth edrych ymlaen hoffwn ddiolch am y cyd-weithio sydd eisioes wedi digwydd gan Swyddogion a Staff Ceredigion ynghyd a chyd Gynghorwyr; er fod pethau yn ymddangos yn anodd rhaid cofio ein bod yn byw mewn Sir Arbennig iawn yn ddaearegol eang, Sir sydd wedi arloesu mewn nifer o ffyrdd. Braint yw wedi cael bod yn rhan o gyflwyno Ysgolion Newydd, gwella safon gofal, gwthio i gael gwella safon y ffyrdd, gwella safon iechyd a lles anifeiliaid, creu ffyrdd fwy effeithiol o weithio, gwarchod yr arfordir. Mae fy nhyfnod blaenorol wedi bod yn fraint, y profiadau yn addysg a hyderaf os caf fy ethol eto, fe fyddaf yn gallu eich cynrychioli yn fwy effeithiol."

Blaenoriaethau Maldwyn

  • Lleisio barn yr unigolyn 
  • Gwrando ar geisiadau y bobl a gwneud gwahaniaeth positif
  • Gwarchod etifeddiaeth ein cyn deidiau
  • Gwella safon byw a chyfleusterau i bawb yn y sir
  • Hybu yr economi leol â’r iaith Gymraeg
  • Gwella safon yr amgylchfyd a hybu ffyrdd i ddiogelu byd natur

 

Manylion cyswllt
01239 851005
 

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-01-28 16:53:52 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.