Rhaid i bawb yng Ngheredigion aros adref er mwyn achub bywydau ac amddiffyn y GIG
Mae cynrychiolwyr Ceredigion yn y Senedd ac yn San Steffan, Elin Jones AS a Ben Lake AS, wedi rhoi neges o gefnogaeth i bobl yng Ngheredigion, gan dynnu sylw at y ffaith y bydd y cyfyngiadau teithio yng Nghymru yn parhau am o leiaf tair wythnos arall.
Bu llawer o ddryswch ynghylch parhad y cyfyngiadau, ar ôl i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, ymddangos fel petai’n llacio’r rheolau yn ei anerchiad ar ddydd Sul y 10fed o Fai. Fodd bynnag, Llywodraeth Cymru’r sydd â’r gallu i godi’r cyfyngiadau yng Nghymru, ac fe gyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, y bydd parhad o 3 wythnos i’r mesurau ar y dydd Gwener cynt.
Yn eu neges, a ryddhawyd ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Llun yr 11eg o Fai, bu Ben Lake ac Elin Jones yn atgyfnerthu'r ffaith bod y cyfyngiadau ar waith o hyd, gan hefyd diolch i etholwyr am eu hamynedd a’u caredigrwydd tuag at ei gilydd.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Ni’n mynd mewn i wythnos 8 o’r cyfyngiadau symud oherwydd Covid-19. Mae’r gorchymyn yn para'r un fath yng Ngheredigion a Chymru - aros adref, i achub bywyd ac arbed yr NHS. Ni fydd newid am o leia’ 3 wythnos eto.
“Fel eich cynrychiolwyr ni wedi bod yn gweithio i sicrhau fod cynlluniau mewn lle i ddiogelu ffynonellau incwm i bobol a busnesau. Mae mwy eto angen ei wneud - rhai dal heb dderbyn dim a phawb yn poeni am yr hir dymor.
“Serch hynny, diolch i bawb am gadw at y rheolau, am yr holl garedigrwydd i’ch gilydd a diolch yn enwedig i weithwyr ein Gwasanaeth Iechyd, sector gyhoeddus a gweithwyr allweddol. Rydych chi’n sêr ac rydym ni’n ddyledus i chi.
Ychwanegodd Elin Jones AS:
“Rydym ni’n gwybod fod y cyfyngiadau yma’n anodd, yn cadw teuluoedd a ffrindiau ar wahân ac yn creu pob math o broblemau i fusnesau. Ond tra bod yr haint yn dal i ledu, a phobol yn dal i farw mae’n rhaid cadw cyfyngiadau llym mewn lle.
“Cofiwch gysylltu gyda fi a Ben i godi unrhyw fater. Rydym ni dal yma yn gweithio ar eich rhan. Er nad yw’n swyddfeydd yn Aberystwyth a Llambed ar agor, rydym ni dal ar ben arall y ffôn neu e-bost neu Facebwc.
“Arhoswch adre, i achub bywyd ac arbed yr NHS. Cofiwch, daw eto haul ar fryn.”