Heddiw mae Ben Lake AS wedi addo ei gefnogaeth i ymgyrch Long Live the Local Campaign i helpu tafarndai yng Ngheredigion i gadw eu drysau ar agor. Mae Ben Lake wedi ymuno â mwy na 240,000 o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hyd yn hyn, gan gynnwys 335 yng Ngheredigion yn unig.
Mae Ben Lake AS yn galw ar y Llywodraeth i dorri treth cwrw yn y Gyllideb. Gyda £1 ym mhob £3 sy’n cael ei wario yn nhafarndai’r DU yn mynd i’r dyn treth, mae yfwyr Prydain bellach yn talu 40% o’r holl dreth gwrw ledled yr UE, ond dim ond yn yfed 12% o’r cwrw. Mae saith o bob deg diod alcoholig sy'n cael eu gweini mewn tafarndai yn gwrw, sy’n tanlinellu pa mor uniongyrchol y byddai torri treth cwrw yn helpu tafarndai. Mae bragu a thafarndai yng Ngheredigion yn cefnogi 1169 o swyddi ac yn cyfrannu £ 23.1m i'r economi leol.
Wrth sôn am yr ymgyrch, dywedodd Ben Lake AS:
“Mae tafarndai wrth galon cymunedau ledled Ceredigion, ond gyda thair tafarn yn cau eu drysau am byth bob dydd ledled y DU, rhaid i ni gydnabod bod yr asedau cymunedol hyn yn wynebu heriau sylweddol wrth iddynt geisio aros ar agor. Am y rheswm hwn, rwy’n cefnogi ymgyrch Long Live the Local ac yn galw ar y Canghellor i dorri treth cwrw ar gyfer eiddo trwyddedig yng Nghyllideb eleni er mwyn gefnogi tafarndai ein cymunedau lleol. ”
Dywedodd Emma McClarkin, Prif Weithredwr Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain:
“Mae treth cwrw wedi cynyddu 60% dros yr 17 mlynedd diwethaf ac erbyn hyn mae gan y DU un o’r cyfraddau treth uchaf yn Ewrop. Pan fydd dros ddwy ran o dair o'r holl ddiodydd alcoholig a brynir mewn tafarn yn gwrw, byddai torri treth cwrw yn mynd yn bell i amddiffyn tafarndai ar draws Ceredigion. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ben Lake am ei gefnogaeth i ymgyrch Long Live the Local, ac yn gobeithio bydd y Llywodraeth yn gwrando ar ASau ar draws y Senedd a’r miloedd o bobl ledled y wlad sy’n galw am dorri treth cwrw i amddiffyn ein tafarndai.”