Dydd Sadwrn, 12 Mawrth, yn y Moody Cow Llwyncelyn mi fu ymgeiswyr Plaid Cymru Ceredigion yn lawnsio eu ymgyrch etholiadol ar gyfer etholiad Cyngor Sir Ceredigion ar y 5ed o Fai 2022.
Mi fydd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd Grŵp Cynhorwyr Plaid Cymru Ceredigion yn sefyll i lawr ym mis Mai. Diolchwyd iddi gan y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd newydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru am ei arweinyddiaeth ragorol dros blynyddoedd caled gyda thoriadau llym ac hefyd delio â COVID. Dymunwyd pob hapusrwydd iddi yn ei ymddeoliad.
I weld rhestr o'r holl ymgeiswyr fydd yn sefyll yn yr etholiad, cliciwch yma.
Dangos 1 ymateb