Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, wedi bod yn cwestiynu Prif Weithredwyr Cyfoeth Naturiol Cymru a Ofwat ynglŷn â’r diffygion difrifol mewn cyfundrefn reoleiddio sydd wedi methu atal carthion anghyfreithlon rhag cael eu gollwng i’r Afon Teifi ers blynyddoedd.
Yn ystod y drafodaeth mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymru, amddiffynnodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, y rheoleiddiwr am y diffyg erlyniadau a fu am werth filoedd o ddiwrnodau o ollyngiadau carthion i’r Afon Teifi.
Mae data a lunwyd gan Peter Hammond, mathemategydd a chyn athro ym mhrifysgol UCL yn cadarnhau bod llygredd yr Afon Teifi yn uwch nag unrhyw afon arall yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd olaf yma.
Mae hyn o ganlyniad i waith trin carthion hynod aneffeithiol Aberteifi sydd yn ôl cofnodion wedi gollwng carthion heb eu trin am gyfanswm cronnol o 1,146 diwrnod rhwng dechrau 2018 a diwedd Mai 2023.
Yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymru cadarnhaodd Clare Pillman fod CNC yn ymwybol o’r broblem yn Aberteifi ers 2015. Er iddynt gyhoeddi hysbysiadau gorfodi yn ystod y blynyddoedd ers yr ymwybyddiaeth o'r broblem, ni osodwyd unrhyw ddirwyon na sancsiynau pellach gan y rheolyddion.
Cwestiynwyd Ms Pillman am effeithiolrwydd y broses reoleiddiol, a hefyd pa gamau y disgwylid i Dŵr Cymru eu cymryd. Dywedodd Ms Pillman “mae nifer o gamau rheoleiddio” wedi digwydd, ond mae rhai o gamau Dŵr Cymru heb weithio. Heriwyd Ms Pillman gan Mr Lake wrth iddo holi a oedd hi'n credu bod y broses reoleiddio wedi gweithio ar ôl iddi gymryd 10 mlynedd i ddechrau gweithredu ar ddatrysiad yn Aberteifi yn dilyn adroddiad i'r rheoleiddiwr bod yna fethiannau. "Na" fu ymateb Ms Pillman.
Mewn cyfarfod dilynol o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, gofynodd Mr Lake i Mr David Black, Prif Weithredwr Ofwat, i esbonio diffygion y cynlluniau buddsoddi a gyflwynwyd gan gwmnïau dŵr i’r rheoleiddiwr, a’r methiant i gyrraedd targedu perfformiad craidd. Cyfaddefodd Mr Black bod nifer o gwmnïau yn ddiffygiol yn hyn, a disgrifiodd eu perfformiad hyd yma yn “siomedig”. Cadarnhaodd hefyd fod gan Ofwat orfodaeth agored yn erbyn chwe chwmni dŵr yn sgil perfformiad dŵr gwastraff, a’i bod yn gweithredu yn erbyn dau gwmni oherwydd diffyg cofnodi gollyngiadau a’u targedau o ran defnydd y pen.
Mae Dŵr Cymru wedi cytuno i fuddsoddi er mwyn ymateb i’r methiant a nodwyd yn y gwaith trin yn Aberteifi, gyda mesuriadau uwchraddio interim sydd wedi arwain at rywfaint o welliant a rhaglen fuddsoddi o £20m ar y safle yn 2025 er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r drwydded gollwng.
Wrth wneud sylw yn dilyn y sesiynau pwyllgor, dywedodd Ben Lake AS:
“Mae llawer o drigolion Ceredigion wedi’u syfrdanu gan raddau’r gollyngiadau i mewn i’r Teifi. Mae pobl yn pryderu’n fawr fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymwybodol o’r problemau yn Aberteifi ers blynyddoedd, ac eto wedi methu gweithredu’n effeithiol i wella’r sefyllfa.
“Yn ogystal â’r risg i iechyd y cyhoedd a’r difrod amgylcheddol sylweddol gan lygredd o’r fath, mae lefel y ffosffadau yn yr Afon Teifi wedi sbarduno rheolaethau cynllunio llym sydd wedi dod â datblygiad yn nyffryn Teifi i ben ers bron i ddwy flynedd. Mae’r methiant i sicrhau gweithredu ar frys i ddelio â seilwaith diffygiol yn yr achos yma wedi cael effaith amgylcheddol, economaidd a cymdeithasol difrifol ar gymunedau yng Ngheredigion.
“Nid yw’n ddigon da ei bod hi wedi cymryd degawd o’r adeg y daeth CNC yn ymwybodol o’r materion hyn gyntaf yn 2015 i Dŵr Cymru'n buddsoddi mewn gwaith trin newydd yn 2025. Yn wir, mae’r enghraifft benodol hon, o’i hystyried yng nghyd-destun ehangach perfformiad gwael cwmnïau dŵr, yn codi’r cwestiwn a yw’r drefn reoleiddio bresennol yn addas i’r diben, ac a yw’r rheolyddion eu hunain yn cyflawni’r dasg.”
Gwyliwch y fideo yma: https://www.youtube.com/watch?v=mqgVvx0_1go
Dangos 1 ymateb